Ganwyd La-Chun Lindsay yn Ne Carolina ac enillodd BSc mewn Peirianneg Seramig o Brifysgol Clemson ym 1995, cyn ymuno â Chorfforaeth SELEE yng Ngogledd Carolina. 
 
Yn SELEE bu mewn amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys arwain y llinell gynhyrchu fwyaf. Ym 1997, symudodd La-Chun i GE Quartz i fod yn rheolwr ffatri am dair blynedd. Dros gyfnod o saith blynedd, bu’n archwiliwr cysylltiol, yn rheolwr archwilio, yn uwch-reolwr archwilio ac, yn y pen draw, yn rheolwr archwilio gweithredol. 

Yn 2007, symudodd i GE Capital i fod yn is-lywydd grŵp gwasanaethau maes cyllid dosbarthu masnachol. Parhaodd yn y swydd am bron saith blynedd cyn symud ymlaen, ar ôl ymuno â GE Aviation, i fod yn arweinydd ffatri Gwasanaethau Adeiladu, Profi ac Archwilio Lynn.

Llun o La-Chun Lindsay yn graddio  

Yn y swydd hon roedd La-Chun yn gyfrifol am arwain tîm o 400 o weithwyr a oedd yn cynhyrchu ac yn datblygu peiriannau ar gyfer cwsmeriaid milwrol a masnachol GE Aviation. Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, symudodd i GE Aviation Wales.

Ar ôl cyrraedd Cymru, cafodd effaith anferth ar GE Aviation Wales, yn ogystal ag effaith ehangach ar nifer o gymunedau yng Nghymru. Yn benodol, aeth ati i gefnogi a hyrwyddo’r gymuned LGBT yng Nghymru, a chyrhaeddodd y pedwerydd safle ar restr Wales Online, Pinc List 2016: The 40 most influential LGBT people in Wales.

Fel y fenyw gyntaf i fod yn rheolwr gyfarwyddwr GE Aviation Wales, llwyddodd La-Chun Lindsay i amrywiaethu’r gweithlu yn sylweddol, ac o ganlyniad i'w heffaith yno, mae'n cael ceisiadau rheolaidd i siarad mewn digwyddiadau corfforaethol, dathliadau prifysgolion, ciniawau, ac i roi sylwadau i'r cyfryngau.

Yn 2017, hi oedd y prif siaradwr yn nathliadau Diwrnod Menywod mewn Peirianneg Prifysgol Abertawe.

Yn ogystal â chefnogi menywod mewn pynciau STEM, mae La-Chun yn ymwneud â'r gymuned LGBT i helpu i gefnogi ac ysbrydoli staff a myfyrwyr ymhellach ym mhob rhan o’r Brifysgol, a rhoddodd y brif ddarlith yng nghynhadledd gweithle Stonewall Cymru yn 2017, gydag aelodau o dîm cydraddoldeb Prifysgol Abertawe yn bresennol, yn ogystal ag yng nghynhadledd gweithle genedlaethol Stonewall.

Roedd La-Chun Lindsay a GE Aviation yn gyfranogwyr gweithgar yn Pride Cymru yn 2018.

Yn haf 2018, cyflwynodd Prifysgol Abertawe radd er anrhydedd i La-Chun Lindsay yn ystod seremoni raddio Coleg Peirianneg y Brifysgol.

Wrth dderbyn ei gradd, meddai Ms Lindsay: “Mae'n anrhydedd mawr derbyn y gydnabyddiaeth nodedig hon gan Brifysgol Abertawe, prifysgol o safon fyd-eang wedi'i hadeiladu ar sylfaen eithriadol hanes, treftadaeth a gwerthoedd. Ces i'r fraint o fyw yng Nghymru o 2015 tan 2018 wrth arwain GE Aviation Wales, y cwmni diwydiannol mwyaf yng Nghymru, â refeniw blynyddol gwerth bron $3 biliwn. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu nifer o gyflawniadau ar y safle a oedd yn destun balchder mawr i mi, ond byddaf bob amser fwyaf balch o'r anrhydedd hwn. Diolch."