Yn enedigol o Ferthyr, mae Jonny Owen wedi ennill gwobr BAFTA Cymru fel cynhyrchydd, actor ac awdur.  Ef yw awdur a seren Svengali, y gyfres ryngrwyd cwlt sydd bellach wedi’i haddasu’n ffilm. 

Dechreuodd Jonny ar ei yrfa fel actor yn ystod ei amser fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae e wedi ymddangos mewn rhai o raglenni teledu mwyaf y Deyrnas Unedig,  gan gynnwys Shameless, Torchwood, Murphy’s Law, a My Family. Yn 2006, gwobrwywyd BAFTA Cymru i Jonny am gyd-gynhyrchu rhaglen ddogfen ar drychineb Aberfan. 

"Roedd mynd i Brifysgol Abertawe yn un o'r penderfyniadau gorau wnes i erioed." 

Wrth siarad am ei gyfnod ym Mhrifysgol Abertawe, dywedodd Jonny: "Roedd mynd i Brifysgol Abertawe yn un o'r penderfyniadau gorau wnes i erioed.  Roeddwn wrth fy modd yno.  Bydd gan Brifysgol Abertawe le arbennig yn fy nghalon am byth". 

Jonny Owen o flaen cefndir BAFTA

Cyfarwyddodd Jonny 'I Believe in Miracles', stori am y tîm Nottingham Forest a greodd hanes drwy ennill Cwpan Ewrop ddwy flynedd yn olynol ym 1979 a 1980, a 'Don’t take me home' sef hanes Cymru yn yr Ewros. Mae Jonny hefyd yn gefnogwr brwd o dîm Dinas Caerdydd a Chymru. Mae wedi ymuno â talkSport yn ddiweddar ac wedi lansio rhaglen newydd am ddwy awr fore Sul gyda Mark Webster.