Yr Athro John Tucker yw warden Casgliad Hanes Cyfrifiadura neu HOCC y Brifysgol. Dyma archif llawn newidiadau technolegol a chymdeithasol hynod ddiddorol sy’n rhoi cipolwg ar ddylanwad anhygoel Abertawe ar ddatblygiad cyfrifiadura. 

Mae gan yr Athro Tucker wybodaeth hollgynhwysfawr am hanes cyfrifiadura, gan gynnwys cyfrifiadura yng Nghymru a rôl cyfrifiaduron yn ystod y rhyfel. Meddai: "Dechreuais gasgliad o fân betheuach o'r Adran Gyfrifiadureg, ond mae mwy i'r casgliad na chyfarpar, mae'n gronfa llawn gwybodaeth a phrofiad." 

Mae’r casgliad yn cynnwys papurau a llyfrau’r cyfrifiadurwr Leslie J Comrie, un o gewri cyfrifiannu rhifiadol cyn y rhyfel a’r rheswm pam mae gan Abertawe arbenigedd ar gyfrifiadura cyn cyfrifiaduron. 

John Tucker o flaen unedau o silffoedd

Dechreuodd cyfrifiadura 'modern' yn Abertawe yn y 1960au. "Daeth y cyfrifiadur electronig cyntaf i'r Brifysgol ym 1962," meddai'r Athro Tucker. "Cost y cyfrifiadur oedd £22,120, felly fel y gallwch ddychmygu, roedd yn bryniad mawr." 

Ar y peiriant hwn y gwnaeth y peiriannydd sifil byd-enwog, yr Athro Olek Zienkiewicz, a'i gynorthwyydd, Yau Kai Cheung, waith pwysig iawn ar ddull yr elfen feidraidd. Mae rhannau o'r darn eiconig hwn o gyfrifiadura yn dal i fodoli, ac wedi'u harddangos i bawb eu gweld yn Ffowndri Gyfrifiadol newydd y Brifysgol ar Gampws y Bae, sy’n werth £32.5 miliwn. 

Mae HOCC yn cynnwys archifau mewn perthynas ag ymchwil cyfrifiadurwyr sydd wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd llawer o'r gwyddonwyr hyn yn arloeswyr cyfrifiadura modern. 
 
Mae HOCC hefyd yn adnodd cyfoethog iawn ar gyfer ymchwil, addysgu a chenhadaeth ddinesig. Er enghraifft, arweiniodd yr Athro Tucker brosiect yn edrych ar hanes y DVLA rhwng 1965 a 1975, gan arwain at gynhadledd Big Data Comes to Wales yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn 2015. Roedd hefyd ymchwil i rôl cyfrifiaduron mewn gwneud dur – prynwyd y cyfrifiadur cyntaf yng Nghymru ar gyfer gwaith dur Port Talbot. Ar hyn o bryd mae'r Athro Tucker yn datblygu deunyddiau ar hanes gwyddoniaeth a thechnoleg, yn enwedig yng Nghymru, wedi'i lywio gan rôl cyfrifiannu. Mae ef hefyd yn un o sylfaenwyr a golygyddion cyfres newydd o lyfrau hanes gan Springer a Gwasg Prifysgol Cymru. 

Darllenwch yr erthygl lawn yn rhifyn y canmlwyddiant o gylchgrawn ymchwil y Brifysgol, Momentum.