Joanne Hill yn graddio

Dechreuodd Joanne Hill, sy'n dod o Borth Tywyn yn ne Cymru, gymryd cyffuriau yn 15 oed pan oedd mewn perthynas a drodd yn dreisgar, a daeth yn gaeth heroin. 

Gwaethygodd y sefyllfa pan roddwyd ei dau fab yng ngofal eu mam-gu a'u tad-cu, wrth i'w dibyniaeth ar heroin gynydduYnaar ôl cyfnod arall o gamddefnyddio cyffuriau, bu bron iddi farw pan gafodd ei rhuthro i'r ysbyty – roedd yn dioddef o endocarditis – ym mis Medi 2012. 

Pan oeddwn yn chwistrellu heroin, doeddwn i ddim yn poeni am fyw neu farw," meddai JoannePe bawn i heb fynd i'r ysbyty, byddwn i wedi marw. 

Gwelais y goleuni bryd hynny. Roedd rhaid i mi benderfynu a oeddwn am fod yn gaeth i gyffuriau tan i mi farw? Neu a oeddwn am newid fy mywyd? 

Collais ffrindiau, collais fy mherthynas â'm teulu a chollais fy nau fachgen. Doedd gen i ddim gobaith y byddai pethau'n newid. 

Ar ôl cwrdd ar hap â nyrs arbennig ar ei ward, penderfynodd Joanne newid ei bywyd a dechrau ar drywydd gwella, a gyrfa fel nyrs. 

“Cafodd nyrs, Vanessa, effaith go iawn ar fy mywyd,” meddai Joanne. “Gwnaeth fy annog i gael triniaeth adfer, ac o ganlyniad penderfynais fy mod am fod yn nyrs. Roeddwn am gael yr un effaith ar fywydau pobl eraill. 

Pe bai hi heb dreulio amser gyda mi, pan oeddwn yn teimlo nad oeddwn yn haeddu hynnybyddwn yn ôl pob tebyg wedi gadael yr ysbyty a dychwelyd i’m hen ffordd o fyw. 

Wedi 19 mis o driniaeth adfer  ochr yn ochr â'i ffydd Gristnogol  gwnaeth Joanne roi’r gorau i heroin gweddnewid ei bywyd. 

Ar ôl treulio amser yn gwirfoddoli gyda Sands Cymru, prosiect sy’n mynd i’r afael â chyffuriau yn Abertawe, aeth ati i ddilyn cwrs gradd tair blynedd mewn Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe, gan ennill anrhydedd dosbarth cyntaf. 

Nawr mae'n gweithio fel nyrs staff yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, ac mae'i dau fab yn byw gyda hi eto. 

Mae'n deimlad enfawr o gyflawniad, meddai JoannePe baech wedi dweud wrthyf wyth mlynedd yn ôl y byddwn yn cwblhau gradd mewn nyrsio a byddai fy mechgyn yn byw gyda mi eto, byddwn wedi chwerthin oherwydd cyflwr fy mywyd ar y pryd. Ni allwn byth fod wedi dychmygu'r fath beth. 

Os ydych ddifrif am wneud rhywbeth, gallwch lwyddo drwy waith caled a phenderfyniad.  

Mae wir yn fraint cael bod yn nyrs. Roeddwn ar fy isaf, ac roeddwn am fod yno i bobl eraill ar eu hisaf. Nyrsio yw'r proffesiwn perffaith ar gyfer hynny.” 

Mae Joanne yn gweithio mewn uned asesu meddygol yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli ar hyn o bryd lle mae'r holl gleifion y mae'r uned yn eu derbyn yn dioddef o coronafeirws. “Mae gweithio fel nyrs i’r GIG yn ystod y pandemig hwn wedi rhoi ymdeimlad o falchder eithriadol i mi,” meddai. Mae edmygedd a chefnogaeth y cyhoedd i'r sector wedi bod yn syfrdanol.”