Mae Eve Myles wedi derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe. Cyflwynwyd y radd i’r actores o Gymru yn ystod seremonïau graddio’r Brifysgol ym mis Rhagfyr 2019 i gydnabod ei gyrfa fel actores 

Eve Myles yn graddio

Ganwyd Eve Myles yn Ystradgynlais, a mynychodd Ysgol Maes y Dderwen. Ar ôl hyfforddi i fod yn actores ac ennill Bagloriaeth y Celfyddydau mewn actio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, symudodd i Lundain. 

Yn 2000, cymerodd Eve rôl ganolog Ceri Owen yn nrama BBC Cymru Belonging, rôl y byddai'n ei chwarae tan ddiwedd y gyfres yn 2009. 

Wrth ymddangos yn Doctor Who yn 2005, daeth Eve i sylw'r prif ysgrifennwr Russell T. Davies, a fyddai'n symud ymlaen i greu a chynhyrchu'r ddrama ffuglen wyddonol Torchwood. Gan ei hystyried yn "un o gyfrinachau gorau Cymru", creodd Davies rôl Gwen Cooper yn Torchwood yn benodol i Eve.  Chwaraeodd Eve gymeriad Gwen Cooper am bedair cyfres rhwng 2006 a 2011. Enillodd ei rôl yn y gyfres wobr Bafta Cymru iddi am yr Actores Orau yn 2007. 

Yn actores theatr fedrus, enillodd Eve Myles Wobr Ian Charleson yn 2004 am ei pherfformiadau yng nghynyrchiadau Cwmni Brenhinol Shakespeare o'r dramâu Titus Andronicus a The Taming of the Shrew. Mae ei chredydau theatr pellach yn cynnwys Henry IV, Rhan I a II yn y Theatr Genedlaethol yn 2004, rôl Emma yn y dangosiad cyntaf o ddrama Zach Braff All New People yn y DU yn 2012. 

Yn 2017, bu Eve yn ymddangos ochr yn ochr â'i gŵr mewn bywyd go iawn, Bradley Freegard, yn y ddrama Gymraeg Un Bore Mercher. Ffilmiwyd Un Bore Mercher yn Saesneg hefyd a chafodd ei dangos ar BBC One Wales yn 2018 â'r teitl Keeping Faith, gydag Eve yn chwarae Faith Howells, cyfreithwraig y mae ei gŵr Evan, sy'n gweithio gyda hi yn eu cwmni cyfreithiol teuluol, yn diflannu yn ystod ei chyfnod mamolaeth yn dilyn genedigaeth eu trydydd plentyn. 

Wrth dderbyn ei gradd er anrhydeddmeddai Eve Myles: “Mae’n fraint derbyn y dyfarniad hwn gan Brifysgol Abertawe. Rwy'n falch iawn o'm gwreiddiau yn Ystradgynlais, i fyny'r ffordd o Abertawe, ac rwy'n teimlo'n lwcus iawn o gael fy nghydnabod gan brifysgol mor flaengar sy'n falch o'i Chymreictod. Diolch yn fawr iawn.”