Llun pen o David Turner

Mae gwaith ymchwil yr Athro Turner yn trafod y ffordd bod pwnc anabledd wedi cael ei anwybyddu yn hanes cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y diwydiant glo, a oedd yn ganolog i ddatblygiad diwydiannol Prydain rhwng y ddeunawfed ganrif a'r ugeinfed ganrif.  
 
Meddai'r Athro Turner: “Mae'r ffordd y cyflwynir hanes y diwydiant glo mewn amgueddfeydd ac yn y cyfryngau yn canolbwyntio ar gyfraddau marwolaethau uchel, ond nid ymdrinnir â chyfraddau anablu glowyr, a oedd hyd yn oed yn uwch. O ganlyniad i hynny, nid yw profiadau pobl anabl yn rhan o ddealltwriaeth y cyhoedd o hanes y glofeydd, a threftadaeth ehangach diwydiant.” 

Mae'r gwaith ymchwil yn deillio o ymchwiliad pum mlynedd, dan arweiniad yr Athro David Turner, i hanes anabledd yn niwydiant glo Prydain, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng twf y diwydiant tua diwedd y ddeunawfed ganrif a gwladoli'r glofeydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae'r gwaith ymchwil yn datgelu hanes cudd dynion, menywod a phlant a gafodd eu hanablu wrth weithio yn y diwydiant glo neu wrth ei wasanaethu ac yn taflu goleuni newydd ar brofiadau pobl anabl yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Mae'n ystyried ymatebion meddygol, lles a chymunedol i anabledd ym meysydd glo gogledd-ddwyrain Lloegr, de Cymru a'r Alban, gan herio'r syniad bod anabledd wedi arwain yn anochel at ddiwedd bywyd gwaith rhywun drwy ddangos bod natur alwedigaethol amrywiol y diwydiant glo wedi rhoi cyfleoedd cyflogaeth i'r rhai a gafodd niwed mewn damweiniau. 

Mae'r gwaith ymchwil wedi gwella dealltwriaeth y cyhoedd drwy'r arddangosfa From Pithead to Sickbed and Beyond: the Buried History of Disability in the Coal Industry before the NHS, mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Drwy dynnu sylw at agwedd ar hanes diwydiannol Cymru sydd wedi'i hanwybyddu yn y gorffennol yn nehongliadau amgueddfeydd, mae'r arddangosfa wedi ehangu ystod a gwella ansawdd y dystiolaeth o agwedd bwysig ar hanes a hunaniaeth y rhanbarth. Yn ogystal, mae wedi cyflwyno llinyn dehongli newydd i'r ffordd y mae'r amgueddfa yn cyflwyno hanes y diwydiant glo drwy banel arall ar hanes anabledd yn Oriel y Glo.  

Mae'r gwaith ymchwil hefyd wedi cynyddu ymwybyddiaeth o hanes anabledd yng Nghymru, yn ogystal â grymuso pobl anabl a sefydliadau i ymgymryd â'u prosiectau ymchwil eu hunain, gan fanteisio ar arbenigedd tîm ymchwil Abertawe.