Mae Dr Amira Guirguis o Brifysgol Abertawe yn fferyllydd ac yn arbenigwr rhyngwladol ar ganfod cyffuriau.  

Ymunodd ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ym mis Mawrth 2019. Mae ei rôl ddeuol fel fferyllydd ac ymchwilydd wedi creu cyfle i feithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth arloesol o faes newydd sbon “sylweddau seicoweithredol newydd”. Mae wedi rhoi ei hamser ei hun, ar ben ei hastudiaethau ymchwil, i gyfathrebu â chyrff lleol, cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn archwilio'r sylweddau hyn. Gan ddefnyddio sefyllfaoedd fferylliaeth go iawn a thargedau cenedlaethol y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, mae Dr Guirguis wedi achub y blaen i feithrin dealltwriaeth ymhlith fferyllwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a darparwyr gwasanaethau o faes sylweddau seicoweithredol newydd, yn y gobaith o wella bywydau'r rhai yr effeithir arnynt.  

Llun pen o Amira Guirguis

Ar y cyd â thîm newydd yn yr Ysgol Feddygaeth, mae Dr Guirguis wrthi'n sefydlu uned ymchwil i ddadansoddi priodoleddau ac effeithiau sylweddau seicoweithredol newydd a sylweddau eraill sy'n cael eu camddefnyddio, er mwyn gwella dealltwriaeth ohonynt ac, yn hanfodol, i gynnig cyngor i'r proffesiwn meddygol ynghylch sut i drin pobl sydd wedi eu cymryd.  

Cyn dod i Abertawe, arweiniodd Dr Guirguis y broses o greu'r gwasanaeth gwirio cyffuriau cyntaf a gymeradwywyd gan y Swyddfa Gartref mewn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, ar y cyd ag Addaction, un o elusennau cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl mwyaf blaenllaw'r DU. Mae darganfyddiadau ei gwaith ymchwil wedi cael eu hymgorffori mewn cronfeydd data adnabyddus yn ogystal â gwerslyfrau hanfodol ar gyfer israddedigion fferylliaeth yn y DU.  

Dr Guirguis yw Cyfarwyddwr Rhaglen gradd MPharm newydd arloesol, a fydd yn dechrau yn Abertawe ym mis Medi 2021, ac a fydd yn paratoi fferyllwyr y dyfodol ar gyfer yr heriau newydd y byddant yn eu hwynebu mewn lleoliadau damweiniau ac achosion brys.