Mae gan Alun Wyn Jones radd yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe ac mae'n chwaraewr rygbi rhyngwladol.  

Fe'i ganed yn Abertawe ym 1985 a dechreuodd ei yrfa rygbi gyda Chlwb Rygbi Bôn-y-maen. Roedd eisoes wedi cynrychioli tîm dan 21 oed Cymru cyn ennill ei gap llawn cyntaf dros Gymru, ar daith i Ariannin yn 2006.  

Blaenasgellwr ydoedd yn wreiddiol, ond clo ydyw erbyn hyn. Fel clo y gwnaeth chwarae, a rhagori, yn ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2007. Roedd yn aelod o dîm Cymru a gyflawnodd Gamp Lawn yn y bencampwriaeth yn 2008.  

Alun Wyn Jones yn graddio

Ym mis Mawrth 2009, yn erbyn yr Eidal yn y bencampwriaeth, ef oedd y 126ain chwaraewr i dderbyn y cyfrifoldeb o fod yn gapten ar Gymru.  

Yn 2010, fe'i henwyd yn gapten ar y Gweilch a gwnaeth barhau i arwain rhanbarth mwyaf llwyddiannus Cymru am wyth mlynedd. Gwnaeth gwblhau gradd yn y gyfraith hefyd yn 2010 ar ôl astudio amdani'n rhan-amser ym Mhrifysgol Abertawe.  

Fe'i henwyd gan Warren Gatland yng ngharfan Llewod Prydain ac Iwerddon a deithiodd i Awstria yn 2013, lle enillodd y tîm dan ei arweiniad. Yn 2014, bu'n gapten ar Gymru ar daith y tîm i Dde Affrica.  

Ef yw capten presennol tîm cenedlaethol Cymru ac mae'n gyn-gapten ar y Gweilch. Mae wedi ennill mwy o gapiau na'r un clo arall yn y byd ac wedi chwarae fwy o weithiau dros Gymru nag unrhyw un arall erioed. Mae'n un o griw bach o Gymry sydd wedi ennill y Gamp Lawn deirgwaith, ynghyd â Gerald Davies, Gareth Edwards, JPR Williams, Ryan Jones, Adam Jones a Gethin Jenkins. Fe'i henwyd yn chwaraewr gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019.  

Yn 2014, cyflwynwyd gradd er anrhydedd i Alun Wyn gan Brifysgol Abertawe. Wrth dderbyn y wobr, meddai: “Pan adawais y Brifysgol ar ôl pum mlynedd o astudio am radd, roeddwn yn meddwl y byddai fy nghyflawniadau posib yn y dyfodol yn ymwneud â'm gyrfa fel chwaraewr rygbi. Ond mae cael yr anrhydedd hwn yn arbennig ac yn brofiad emosiynol, ac rwy'n ddiolchgar i'r Brifysgol. Mae gennyf atgofion melys o'm cyfnod yn Abertawe, yn enwedig buddugoliaeth yn nigwyddiad y Varsity. Yn y dyfodol, gan wybod na fydd fy ngyrfa ar y maes chwarae'n para am byth, mae'n bosib y byddaf yn dychwelyd i ennill mwy o gymwysterau.”