Mikey Denman

Mikey Denman

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Nyrsio Oedolion

Penderfynais astudio trwy gyfrwng y Gymraeg gan fy mod yn teimlo’n gryf dros y Gymraeg.

Fel siaradwr Cymraeg mae Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg wedi cynnig cyfleoedd anhygoel i mi, fel bod yn rhan o’r rhaglen ddogfen S4C ‘Nyrsys’ trwy ddilyn fy nhaith fel myfyriwr ym mlwyddyn gyntaf y cwrs nyrsio. Roedd yn brofiad bythgofiadwy. Rwyf hefyd wedi derbyn cyfleoedd i gynrychioli‘r Coleg Cymraeg a Phrifysgol Abertawe trwy rannu fy mhrofiadau fel myfyriwr nyrsio gyda darpar fyfyrwyr mewn ysgolion wrth iddynt ystyried ar eu cam nesaf ar ôl lefel A. 

Cefais fy newis i fod yn gynrychiolydd ar dîm Academi Myfyrwyr Arweiniol y Brifysgol. Ers hynny, rwyf wedi cael gwahoddiad i siarad mewn cynhadledd ynghylch pwysigrwydd yr iaith Gymraeg ym maes arweinyddiaeth.

Ar ôl canlyniadau gwych a chefnogaeth heb ei hail ar y modiwl cyntaf wnes i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, rwyf wedi penderfynu ysgrifennu fy holl draethodau yn y Gymraeg. Mae'r gefnogaeth Gymraeg yn rhagorol gan gynnwys fy nhiwtor personol Cymraeg a’r darlithwyr eraill sy’n rhoi naws gartrefol i Brifysgol Abertawe.

Rydw i’n derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Ysgoloriaeth yn golygu fy mod wedi gallu parhau â'm hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg sydd wedi gwneud fy mhrofiad gymaint yn well. O safbwynt ariannol, mae derbyn £500 y flwyddyn dros gyfnod fy ngradd wedi fy helpu'n sylweddol i leihau’r baich hwnnw.