Syr Roderick Evans yn cyhoeddi mai Daisy Bendle yw'r ymgeisydd llwyddiannus

Syr Roderick Evand gyda'r deiliad llwyddiannt, Daisy Bendle.

Cyhoeddi Deiliad Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi 2025

Bob yn ail flwyddyn caiff Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi ei gwobrwyo i gefnogi astudiaethau myfyrwyr ôl-raddedig cyfrwng Cymraeg. Mae'r ysgoloriaeth yn agored i unrhyw fyfyriwr sydd am gwblhau gwaith ymchwil mewn maes yn ymwneud â chyfraniad Hywel Teifi i ddysg a diwylliant Cymru. 2025 yw’r trydydd tro i Academi Hywel Teifi ei gwobrwyo ac yng Nghyfarfod Blynyddol Cangen Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar ddechrau mis Rhagfyr, fe gyhoeddodd Cadeirydd yr Academi, Syr Roderick Evans, mai Daisy Bendle yw'r ymgeisydd llwyddiannus.

Merch o ddwyrain Abertawe yw Daisy ac aeth i Ysgol Gyfun Treforys lle astudiodd Cymraeg fel disgybl ail iaith. Parhaodd ar y llwybr ail iaith gan gwblhau ei gradd yn Adran y Gymraeg,  Prifysgol Abertawe a graddio yn haf 2025.

A hithau'n dod o gefndir ail iaith, mae diddordeb mawr gan Daisy mewn trafod lle y Gymraeg mewn Addysg Uwch. Bwriad ei hymchwil yw trafod y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu staff a myfyrwyr o ran eu defnydd o'r Gymraeg yn y cyd-destun hwn. Bydd Daisy yn ystyried adroddiadau diweddar ac ymchwil perthnasol o fewn y maes gan edrych ar y berthynas rhwng Addysg Uwch a'r Gymraeg.

Meddai Daisy: "Mae hi’n fraint cael derbyn Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi eleni. Rwy' mor ddiolchgar am y gefnogaeth ac yn wirioneddol gwerthfawrogi’r cyfle. Mae fy ymchwil i’n canolbwyntio ar ddefnydd y Gymraeg mewn Addysg Uwch gyda’r bwriad o ddod o hyd  i strategaethau a syniadau newydd er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn Addysg Uwch. Roedd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn ysbrydoliaeth ac fe gafodd effaith mor gadarnhaol ar addysgu cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Abertawe. Gan dderbyn ysgoloriaeth yn enw Hywel Teifi, byddaf yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn Addysg Uwch ac ymchwil. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar yr ymchwil gyda chefnogaeth yr Ysgoloriaeth hon."