Nod Rhaglen Arloesi Gofal wedi'i Gynllunio Comisiwn Bevan, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw lleihau amserau aros cleifion, mynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol a lleihau'r galw cyffredinol ar wasanaethau gofal wedi'i gynllunio yng Nghymru drwy gefnogi 17 o brosiectau arloesol ac amrywiol ar draws saith bwrdd iechyd y GIG a dwy o ymddiriedolaethau’r GIG.

Mae un o'r prosiectau sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar ymchwil yn cynnwys gwelliannau sylweddol o ran gofal cleifion. 

Trosolwg o'r prosiect

Enw'r prosiect yw ‘Tackling the neglected disease in our midst: towards evidence-based treatment decisions for UTIs at point-of-care’. Fe'i darperir gan Llusern Scientific Ltd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Dyma'r tîm sy'n arwain y prosiect:

  • Dr Emma Hayhurst, Prif Swyddog Gweithredol Llusern Scientific Ltd ac Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru
  • Dr Jeroen Nieuwland, Prif Swyddog Gwyddonol Llusern Scientific Ltd ac Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru
  • Alison King, Prif Wyddonydd Biofeddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae heintiau'r llwybr wrinol ymysg yr heintiau bacterol mwyaf cyffredin yn fyd-eang, ac mae 90% o'r cleifion yn fenywod. Y safon uchaf ar gyfer rhoi diagnosis ar hyn o bryd yw dau neu dri diwrnod, sy'n golygu bod penderfyniadau ar driniaethau'n cael eu gwneud heb ddiagnosis, gan arwain at bresgripsiynau diangen. Mae'r prawf newydd ac arloesol hwn yn rhoi canlyniadau mewn 40 munud, gan alluogi meddygon teulu a fferyllwyr i wneud penderfyniadau ar driniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fenywod sydd mewn poen, gan leihau'r ddibyniaeth ar wrthfiotigau. Mae canlyniadau clinigol yn awgrymu bod y prawf yn 93% o ran sensitifrwydd ac yn 99% o ran penodoldeb. Mae'n gludadwy ac yn hawdd ei ddefnyddio hefyd, ac nid oes rhaid prosesu samplau, gan olygu y gellir addasu’r prawf yn y dyfodol i'w ddefnyddio mewn poblogaethau a lleoliadau â chleifion amrywiol, gan gynnwys gofal yn y gymuned ac mewn argyfyngau o bosib.

Ochr yn ochr â lleihau presgripsiynau am wrthfiotigau (mae oddeutu 20% o'r holl bresgripsiynau am wrthfiotigau yng Nghymru'n ddiangen), mae buddion eraill prawf cyflym yn cynnwys lleihau apwyntiadau rheolaidd gyda meddygon teulu a lleihau nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i ofal eilaidd. Mae pob un o'r buddion hyn yn arbed amser ac arian i'r GIG a'r claf. Os bydd y prosiect hwn yn llwyddiannus, y cam nesaf fydd cael cymeradwyaeth reoleiddiol i ddefnyddio’r prawf yng ngweddill y DU.

Am ragor o wybodaeth, a wnewch chi e-bostio Llusern Scientific neu ewch i wefan y prosiect.

Comisiwn Bevan, sy'n cael ei gynnal a'i gefnogi gan Brifysgol Abertawe, yw'r felin drafod fwyaf blaenllaw yng Nghymru ym maes iechyd a gofal.

Bevan Commission logoLlusern Scientific logo

Rhannu'r stori