Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn dychwelyd i Abertawe am ei pedwerydd flwyddyn, gan arddangos sut mae ymchwil gwyddor gymdeithasol yn dylanwadu ar fywyd pob dydd.

Mae rhaglen eleni'n cynnwys cymysgedd bywiog o ddigwyddiadau am ddim, o arddangosiadau ymdrochol a gweithdai rhyngweithiol i sgyrsiau gan arbenigwyr a gweithgareddau i'r holl deulu. Archwiliwch bynciau sy'n amrywio o iechyd menywod a brandio personol i atgyweirio offer technoleg, diogelwch cymunedol a rôl cŵn mewn addysg.

P'un a ydych chi'n chwilfrydig am faterion cymdeithasol, yn awyddus i ddatblygu sgiliau newydd, neu'n edrych am ddiwrnod allan sy’n llawn ysbrydoliaeth, mae'r ŵyl yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Ymunwch â ni i ddathlu pŵer ymchwil i lywio, herio a chreu newid cadarnhaol.

Gwyliau'r gorffennol

We were pleased to be joined by Bangor and Cardiff Universities to host the ESRC's offering a pan-Wales day of fun, informal and interactive events on wellbeing as part of the 2023 Festival of Social Science.

Cynhaliodd Prifysgol Abertawe weithgareddau a gweithdai gan ymchwilwyr ar draws y tair Prifysgol, yn dilyn themâu gan gynnwys iechyd meddwl, newid ymddygiadol, deallusrwydd artiffisial, dementia, cadwraeth amgylcheddol, argyfwng hinsawdd, rhyw a hunaniaeth ac anghydraddoldebau cymdeithasol.

Gweld ein Gŵyl 2023 yma!

ESRC Festival of Social Science
ESRC Logo