Bydd gwaith yn dechrau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar ddydd Llun 16 Mawrth ar adeilad newydd Y Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd.
Bydd y cyfleuster newydd yn cefnogi datblygiad cymuned amlddisgyblaethol ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg meddygol a gofal iechyd, gyda’r nod o hyrwyddo chwaraeon, iechyd a lles. Darllenwch fwy yma.
Cefndir y Prosiect
Wedi’i leoli’n gyfleus ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, yn agos at Gampws Singleton y Brifysgol ac Ysbyty Singleton, bydd yr adeilad pedwar llawr 2,000m² yn cynnwys academi iechyd a lles, ystafell efelychu, cyfleusterau cyfryngau a mannau cydweithredol – cymerwch daith rithwir.
Rydym yn falch o fod wedi penodi Willmott Dixon yn brif gontractwr ar gyfer y prosiect. Bydd y tîm yn Willmott Dixon yn cydweithio’n agos gyda Phrifysgol Abertawe a Pharc Chwaraeon Bae Abertawe i sicrhau bod mynediad i’r cyfleusterau chwaraeon yn cael ei gynnal a bod aflonyddwch yn cael ei leihau cymaint â phosibl drwy gydol y rhaglen adeiladu. Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn Hydref 2027.
Rhaglen Waith Gychwynnol
Bydd gweithgaredd cychwynnol ar y safle yn dechrau gyda gwaith paratoi:
- Dydd Llun 16 Mawrth – sefydlu’r safle a gosod cyfleusterau lles y safle.
- Wythnos yn dechrau 23 Mawrth – gosod sgaffaldiau.
- Ebrill – bydd gwaith dymchwel mewnol yn dechrau o fewn adeilad presennol y pafiliwn.
Parcio i Gwsmeriaid
Er mwyn lleihau’r effaith ar barcio i gwsmeriaid, rydym wedi gweithio gyda Willmott Dixon i gadw maint compownd y safle I’r lleiafswm. Efallai y bydd cyfleoedd i leihau maint y compownd yn ystod y prosiect, gan ryddhau mwy o leoedd parcio. Rydym hefyd wedi sicrhau parcio gorlif am ddim i’n cwsmeriaid ym maes parcio staff y Bwrdd Iechyd – gweler y cynllun isod.
Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau wrth i’r prosiect fynd rhagddo. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch y gwaith, anfonwch e-bost at: campusdevelopment@swansea.ac.uk.
Cynllun y Safle
Lawrlwythwch gynllun y safle: Cynllun y Safle NISH