Mae’r Cyngor yn adolygu’n rheolaidd sut mae ei bwyllgorau’n gweithio i wneud yn siŵr eu bod yn cefnogi llywodraethu a gwneud penderfyniadau effeithiol. Mae llawer o waith manwl y Cyngor yn cael ei ystyried yn gyntaf gan ei bwyllgorau. Mae pob pwyllgor wedi'i sefydlu'n ffurfiol, gyda chylch gorchwyl clir ac aelodaeth ddiffiniedig. Mae pwyllgorau'n cynnwys aelodau lleyg o'r Cyngor ac yn cael eu cadeirio gan aelod lleyg o'r Cyngor. Mae pob pwyllgor yn adrodd yn ôl i'r Cyngor ar eu penderfyniadau a'u trafodaethau allweddol.
Y PWYLLGOR ARCHWILIO, SICRWYDD A RISG
Mae'r Pwyllgor Archwilio, Sicrwydd a Risg yn gyfrifol am gynghori a chynorthwyo'r Cyngor mewn perthynas ag amgylchedd sicrwydd a rheoli'r Brifysgol. Ei brif gyfrifoldebau yw sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion statudol, gofynion y Brifysgol a gofynion rheoleiddio allanol mewn perthynas â'i gweithgareddau ariannol ac anariannol ac mewn perthynas â'r materion yn ei Cylch Gorchwyl, ac mae gan y Pwyllgor yr awdurdod i wneud argymhellion i'r Brifysgol, ei hunedau trefniadaethol a'i haelodau. Mae'r Pwyllgor fel arfer yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, fodd bynnag, gellir galw cyfarfodydd arbennig ar gais y Cadeirydd os oes angen.
Aelodaeth
| Cyfansoddiad | Enw |
|---|---|
| Aelod Lleyg o'r Cyngor (Cadeirydd) | Marcia Sinfield |
| Aelod Lleyg o'r Cyngor | Richard Thomas |
| Aelod Lleyg o'r Cyngor | Matt Harris |
| Aelod Lleyg o'r Cyngor | Swydd wag |
| Aelod Lleyg Cyfetholedig | Alison Vickers |
| Aelod Lleyg Cyfetholedig | Swydd wag |
| Aelod o Staff y Cyngor | Swydd wag |
| Myfyriwr sy'n Aelod o'r Cyngor | Katie Wilkinson |
Y PWYLLGOR CYLLID A STRATEGAETH
Mae'r Pwyllgor Cyllid a Strategaeth yn goruchwylio ac yn monitro iechyd ariannol y Brifysgol ar ran y Cyngor ac mae'n cynghori'r Cyngor ar yr holl faterion ariannol ac yn cyflwyno argymhellion yn eu cylch yn unol â'i Cylch Gorchwyl. Ei brif gyfrifoldebau yw sicrhau cynaliadwyedd ariannol tymor canolig a hir y Brifysgol drwy gynnal adolygiadau rheolaidd o sefyllfa ariannol y Brifysgol, sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu system gadarn o reolaeth fewnol, monitro perfformiad a chydymffurfiaeth ariannol, a chwarae rôl feirniadol wrth brofi a herio pob penderfyniad ariannol. Mae'r Pwyllgor fel arfer yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, fodd bynnag, gellir galw cyfarfodydd arbennig ar gais y Cadeirydd os oes angen.
Aelodaeth
| Cyfansoddiad | Enw |
|---|---|
| Trysorydd a Chadeirydd y Pwyllgor | Anne Tutt |
| Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor | Goi Ashmore |
| Dirprwy Ganghellor a Dirprwy Gadeirydd y Cyngor | Nan Williams |
| Is-ganghellor | Yr Athro Paul Boyle |
| Aelod Cyfetholedig o'r Cyngor | Yr Athro Edward David |
| Aelod Cyfetholedig o'r Cyngor | Laurence Carpanini |
| Aelod Lleyg Cyfetholedig | Steven Smith |
| Aelod Staff o'r Cyngor | Yr Athro Michelle Lee |
| Myfyrwyr sy'n Aelod o'r Cyngor | Swydd wag |
Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ENWEBIADAU
Mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau'n adolygu trefniadau llywodraethu'r Brifysgol ac yn cynghori'r Cyngor arnynt, gan sicrhau bod y Brifysgol yn defnyddio arfer gorau ac yn cydymffurfio â gofynion llywodraethu allanol. Prif gyfrifoldebau’r Pwyllgor yw (i) sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion llywodraethu allanol, (ii) adolygu aelodaeth y Cyngor a’i Bwyllgorau gan sicrhau bod ganddo’r cydbwysedd angenrheidiol o sgiliau a phrofiad i’w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau, (iii) adolygu dogfennau llywodraethu’r Brifysgol ac argymell newidiadau iddynt, (iv) adolygu a chynghori ar brosesau recriwtio a phenodi aelodau lleyg y Cyngor a’i bwyllgorau a gwneud argymhellion ynghylch y rhain, (v), adolygu a chynghori ar gynllunio am ddilyniant a gwneud argymhellion ar hyn, (vi) goruchwylio sefydlu, atblygu ac arfarnu aelodau’r Cyngor, (vii) adolygu Cofrestr Buddiannau’r Cyngor a sicrhau bod proses gadarn ar waith i nodi gwrthdaro posib rhwng buddiannau, ac (viii) adolygu amrywiaeth y Cyngor a’i Bwyllgorau. Mae gan y Pwyllgor Cylch Gorchwyl y cytunwyd arno, ac mae’r Pwyllgor fel arfer yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, fodd bynnag, gellir galw cyfarfodydd arbennig ar gais y Cadeirydd os oes angen.
Aelodaeth
| Cyfansoddiad | Enw |
|---|---|
| Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor | Goi Ashmore |
| Dirprwy Ganghellor a Dirprwy Gadeirydd y Cyngor | Nan Williams |
| Is-ganghellor | Yr Athro Paul Boyle |
| Aelod Cyfetholedig o'r Cyngor | Yr Athro Keshav Singhal |
| Aelod Lleyg o'r Cyngor | Swydd wag |
| Penodwyd gan y Senedd | Yr Athro Ryan Murphy |
| Aelod Staff o'r Cyngor | Adam Jones |
| Myfyriwr sy'n Aelod o'r Cyngor | Swydd wag |
Y PWYLLGOR CYDNABYDDIAETH ARIANNOL
Mae'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yn gyfrifol am oruchwylio a chraffu ar strategaeth wobrwyo'r Brifysgol, ac mae’n sicrhau ei bod yn cydymffurfio â gofynion Cod Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Staff Addysg Uwch Pwyllgor Cadeiryddion y Prifysgolion (CUC). Mae’r Pwyllgor yn darparu adroddiad blynyddol ar gynnydd i’r Cyngor sy’n dryloyw, yn cyd-fynd ag argymhellion y Cod Cydnabyddiaeth Ariannol i Uwch Staff Addysg Uwch, ac sy’n bodloni gofynion llywodraethu da. Mae gan y Pwyllgor Cylch Gorchwyl y cytunwyd arno, ac mae’r Pwyllgor fel arfer yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, fodd bynnag, gellir galw cyfarfodydd arbennig ar gais y Cadeirydd os oes angen.
Aelodaeth
| Cyfansoddiad | Enw |
|---|---|
| Aelod Lleyg Cyfetholedig o'r Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor | Laurence Carpanini |
| Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor | Goi Ashmore |
| Dirprwy Ganghellor a Dirprwy Gadeirydd y Cyngor | Nan Williams |
| Aelod Cyfetholedig o'r Cyngor | Yr Athro Keshav Singhal |
| Aelod Cyfetholedig o'r Cyngor | Swydd wag |
FFORWM YMGYSYLLTU AR Y CYD Y CYNGOR
Mae Fforwm Ymgysylltu ar y Cyd y Cyngor yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr Undebau Llafur drafod materion gydag aelodau'r Cyngor cyn cyfarfodydd y Cyngor. Mae’r Fforwm yn galluogi aelodau lleyg o Gyngor y Brifysgol i ymgysylltu’n effeithiol ag Undebau Llafur y Campws ar bob agwedd ar gylch gwaith a chyfrifoldebau’r Cyngor. Mae hefyd yn darparu fforwm i drafod materion strategol allweddol sy'n effeithio ar staff er mwyn galluogi cynrychiolwyr i gyflwyno barn eu haelodau ar faterion o'r fath cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud gan y Cyngor. Mae'r Fforwm yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn fel arfer, a gall y Cadeirydd alw cyfarfodydd arbennig neu ar gais yr Undebau Llafur.
Aelodaeth
| Cyfansoddiad | Enw |
|---|---|
| Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor (Cadeirydd) | Goi Ashmore |
| Aelod Lleyg o'r Cyngor | Yr Athro Edward David |
| Aelod Lleyg o'r Cyngor | Swydd wag |
| Aelod o Undeb Llafur UCU | Estelle Hart |
| Aelod Undeb Llafur UNISON | Martyn Sullivan |
| Aelod Undeb Llafur UNITE | Gareth Evans |
PWYLLGOR DYFARNIADAU ANRHYDEDDUS
Mae'r Pwyllgor Dyfarniadau Anrhydeddus yn gyfrifol am ystyried enwebiadau ar gyfer dyfarnu Graddau er Anrhydedd, Cymrodoriaethau er Anrhydedd, a Gwobrau Er Anrhydedd eraill y Brifysgol, a gwneud argymhellion i'r Cyngor a'r Senedd. Yn unol â'i Gylch Gorchwyl, mae'r Pwyllgor yn adolygu'r gweithdrefnau a'r meini prawf sy'n llywodraethu cyflwyno ac ystyried enwebiadau a gall argymell newidiadau lle bo'n briodol. Mae’r Pwyllgor yn adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau ac yn cyfarfod yn ôl yr angen, o leiaf unwaith y flwyddyn.
Aelodaeth
| Cyfansoddiad | Enw |
|---|---|
| Is-ganghellor (Cadeirydd) | Yr Athro Paul Boyle |
| Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor | Goi Ashmore |
| Dirprwy Ganghellor a Dirprwy Gadeirydd y Cyngor | Nan Williams |
| Dirprwy Is-Ganghellor - Iaith, Treftadaeth a Diwylliant Cymru | Yr Athro Gwenno Ffrancon |
| Aelod Cyfetholedig | Elin Rhys |
| Aelod Cyfetholedig | John Tucker |
| Aelod o Staff y Cyngor | Adam Jones |
| Llywydd Undeb y Myfyrwyr | Swydd wag |
| Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu | Niamh Lamond |
| Cynrychiolydd y Senedd | Yr Athro Perumal Nithiarasu |