Mae aelodau'r Cyngor yn cynnwys aelodau allanol, academaidd a myfyrwyr a benodir yn unol a Statudau'r Brifysgol, y mae'r mwyafrif ohonynt o'r tu allan i'r Brifysgol (a ddisgrifir fel aelodau lleyg). Nid yw unrhyw Aelodau Lleyg o'r Cyngor yn derbyn unrhyw fath o daliad, ar wahan i ad-daliad treuliau, am y gwaith a wnant i'r Brifysgol. Ar ol eu penodi, mae'n ofynnol i aelodau'r Cyngor gwblhau cofnod Cofrestr Buddiannau. Mae'r Gofrest Buddiannau gyfredol ar gael gan Ysgrifennydd y Cyngor.
Mae gan bob aelod o'r Cyngor statws cyfartal ac mae ganddynt gyfrifoldeb cyfartal am y penderfyniadau a wneir ar y cyd gan y Cyngor.
Dylai unigolion sydd a diddordeb mewn ymuno a'r Cyngor fel Aelod Annibynnol, neu i gael eu Cyfetholiad ar un o'r isbwyllgorau, gysylltu ag Ysgrifennydd y Brifysgol, Ms Louise Woollard, sef Ysgrifennydd y Cyngor a gellir cysylltu a hi drwy ebost (L.A.Woollard@abertawe.ac.uk). Mae rol Ysgrifennydd y Cyngor wedi'i manylu yn Ordinhad 21.
Aelodaeth Bresennol
| Enw | Rol |
Diwedd y Tymor Swydd Presennol |
|---|---|---|
| *Goi Ashmore | Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor (Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau) | 31 Rhagfyr 2027 |
| Nan Williams | Dirprwy Ganghellor a Dirprwy Gadeirydd y Cyngor | 31 Rhagfyr 2028 |
| Anne Tutt | Trysorydd y Brifysgol (Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, a Phensiynau) | 31 Rhagfyr 2027 |
| Laurence Carpanini | Aelod Lleyg o'r Cyngor (Cadeirydd y Pwyllgor Taliadau) | 31 Rhagfyr 2026 |
| Professor Edward David | Aelod Lleyg o'r Cyngor | 03 Chwefror 2028 |
| Huw Davies | Aelod Lleyg o'r Cyngor | 31 Gorffennaf 2028 |
| Marcia Sinfield | Aelod Lleyg o'r Cyngor (Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Sicrwydd a Risg) | 30 Tachwedd 2028 |
| Professor Keshav Singhal | Aelod Lleyg o'r Cyngor | 30 Tachwedd 2028 |
| Richard Thomas | Aelod Lleyg o'r Cyngor | 15 Mai 2028 |
| Matt Harris | Aelod Lleyg o'r Cyngor | 11 Ionawr 2030 |
| Professor Paul Boyle | Is-Ganghellor (Cadeirydd Gwobrau Anrhydeddus) | 31 Gorffennaf 2029 |
| Professor Michelle Lee | Aelod o Staff y Cyngor | 30 Mehefin 2027 |
| Dr Phatsimo Mabophiwa | Aelod o Staff y Cyngor | 30 Mehefin 2027 |
| Heath Davies | Aelod o Staff y Cyngor | 02 Gorffennaf 2029 |
| Adam Jones | Aelod o Staff y Cyngor | 30 Mehefin 2027 |
| Katie Wilkinson | Myfyriwr Aelod o'r Cyngor | 30 Mehefin 2026 |