Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01745
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£39,105 i £45,163 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
3 Rhag 2026
Dyddiad Cyfweliad
14 Rhag 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae’r cydweithrediad ALPHA yn CERN yn syntheseiddio ac yn dal gwrth-hydrogen ar gyfer profion trachywir cymesuredd sylfaenol. Mae’r cydweithrediad yn arwain yn fyd-eang ym maes sbectrosgopeg drachywir ac astudiaethau hydrogen disgyrchol. Yn dilyn diweddariad sylweddol i amledd yr offerynnau mesureg ym mhrosiect ALPHA, y nod bellach yw cyflawni neu ragori ar drachywiredd sbectrosgopeg mewn hydrogen cyffredin. Mae Prifysgol Abertawe’n un o aelodau sefydlu a phrif randdeiliaid y cydweithrediad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â’r tîm o Brifysgol Abertawe yn CERN a bydd yn dod yn aelod llawn o gydweithrediad ALPHA.  Mae gan y grŵp dri aelod staff academaidd parhaol, pedwar aelod staff ôl-ddoethurol a nifer amrywiol o fyfyrwyr PhD sy'n cyfrannu'n weithredol at brosiect ALPHA yn CERN.  Rydym yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar PhD mewn ffiseg arbrofol, ynghyd â phrofiad o synthesis, oeri â laser, a sbectrosgopeg gwrth-hydrogen, yn ogystal â datblygu trapiau Penning, electroneg â sŵn isel, canfod golau uwchfioled dwfn, a thechnoleg cryogenig.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr