Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01729
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£26,707 i £29,588 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Addysg
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
4 Tach 2026
Dyddiad Cyfweliad
10 Tach 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd yr Uwch-gynorthwy-ydd Asesu a Chanlyniadau (Argraffu a Rheoli Dogfennau) yn gweithio yn y Tîm Asesu a Chanlyniadau mewn partneriaeth â staff academaidd, er mwyn darparu'r lefelau uchaf o ragoriaeth mewn cymorth proffesiynol yn y swyddogaethau canlynol: 
 

* Arholi ac Asesu, Cynllunio a Rheoli – I gefnogi’r gwaith o reoli dogfennau fel rhan o broses arholi’r Brifysgol, gan gynnwys: derbyn, argraffu a phecynnu sgriptiau arholiadau’n ddiogel wrth baratoi at arholiadau’r Brifysgol. Sganio papurau arholiadau’n ddiogel, gan gynnwys taflenni atebion i gwestiynau aml-ddewis a sgriptiau ar gyfer arholwyr allanol. Rheoli’r gwaith o ffeilio ac archifo sgriptiau arholiadau. 

* Cymorth Myfyrwyr – I sicrhau bod myfyrwyr y mae angen addasiadau rhesymol arnynt yn cael cymorth a darpariaeth briodol drwy ddogfennaeth arholiadau. 

Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio’n unol â holl bolisïau a gweithdrefnau, trefniadau llywodraethu a fframweithiau cyfansoddiadol y Brifysgol, gan geisio arweiniad gan arweinwyr timau/rheolwyr lle bo hynny’n briodol. 

Bydd y rôl hon yn addas i ymgeiswyr sydd â phrofiad o weithio ym myd addysg ym maes asesu, arholiadau a dyfarniadau/dilyniant myfyrwyr neu sydd â sgiliau trosglwyddadwy amlwg.

Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd fod yn drefnus iawn, yn rhagweithiol, meddu ar lygad craff am fanylion a gallu gweithio i derfynau amser tynn dan bwysau, gan ragweld problemau a allai godi. 

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio’n agos gyda’r Tîm Asesu a Chanlyniadau, felly mae’n hanfodol i ddeiliad y swydd allu meithrin perthnasoedd gweithio effeithiol ac ennill dealltwriaeth o raglenni a rheoliadau academaidd. 

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

I gyflwyno cais am y swydd hon, mae angen i chi ddarparu CV a llythyr eglurhaol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi sut rydych yn bodloni meini prawf y fanyleb person fel y’u nodir yn y disgrifiad swydd drwy amlygu eich cymwysterau, eich sgiliau a’ch profiad perthnasol mewn llythyr eglurhaol.

Yn unol â Rheolau Mewnfudo cyfredol Llywodraeth y DU, nid yw'r rôl hon yn gymwys ar gyfer nawdd fisa.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr