Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01723
Math o Gytundeb
Parhaol
Cyflog
£47,389 i £56,535 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Parc Dewi Sant, Caerfyrddin
Dyddiad Cau
28 Hyd 2026
Dyddiad Cyfweliad
15 Tach 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Jonathan Thomas Jonathan.W.Thomas@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Ymarferydd Uwch profiadol ymuno â'r Adran Nyrsio fel Uwch Ddarlithydd.

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gyflwyno, datblygu a gwella addysg yn barhaus ar draws modiwlau Ymarfer Uwch, rhagnodi anfeddygol a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) perthnasol. Byddwch yn addysgu a chefnogi dysgwyr ôl-raddedig o ystod o gefndiroedd proffesiynol a chlinigol, gan eu helpu i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd proffesiynol sy'n ofynnol ar gyfer rolau uwch ac estynedig, gan gynnwys rhagnodi.

Bydd y rôl yn cynnwys addysgu ac asesu ar draws meysydd fel asesu clinigol uwch, rhesymu clinigol, gwneud penderfyniadau, rhagnodi, arweinyddiaeth ac ymarfer proffesiynol, ochr yn ochr â chyfrannu at ddarpariaeth DPP berthnasol. Byddwch hefyd yn cefnogi datblygu cwricwlwm, sicrhau ansawdd a gwella rhaglenni mewn ymateb i safonau proffesiynol, blaenoriaethau a datblygiadau'r gweithlu ar draws Ymarfer Uwch a rhagnodi.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at gyflwyno, datblygu a gwella addysg ôl-raddedig mewn Ymarfer Uwch a rhagnodi anfeddygol, gan gefnogi dysgwyr i ddatblygu rhesymu clinigol uwch, gwneud penderfyniadau, arweinyddiaeth a gallu rhagnodi.

Dylai ymgeiswyr fod â chofrestriad proffesiynol cyfredol gyda'r NMC, HCPC neu GPhC, MSc mewn Ymarfer Uwch/Ymarfer Clinigol Uwch neu gyfwerth, a chymhwyster rhagnodi annibynnol/atodol priodol gyda nodiadau rhagnodi cyfredol. Bydd gennych hefyd brofiad diweddar sylweddol o weithio ar lefel ymarfer uwch, gan gynnwys gwneud penderfyniadau clinigol ymreolaethol a rhagnodi.

Mae'r rôl yn cynnig cyfle i gydweithio â chydweithwyr academaidd, sefydliadau gofal iechyd, arweinwyr Ymarfer Uwch a thimau clinigol i gefnogi addysg o ansawdd uchel a datblygu'r gweithlu ar draws Ymarfer Uwch a rhagnodi.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr academaidd, sefydliadau gofal iechyd, arweinwyr Ymarfer Uwch, timau clinigol a rhanddeiliaid eraill i gefnogi addysg o ansawdd uchel a datblygu'r gweithlu

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen darparu tystiolaeth foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau 

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr