Cymrawd Addysgu mewn Ecoleg Planhigion (cyfnod penodol – 11 mis)
- Rhif y Swydd
- SU01709
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,610 i £38,784 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 20 Hyd 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 30 Hyd 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof Luca Borger l.borger@swansea.ac.uk
- Dr Ed Pope E.C.Pope@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rydym yn cyhoeddi swydd am gyfnod penodol (11 mis, 60% CALl, cyflenwi yn ystod absenoldeb mamolaeth) fel Cymrawd Addysgu mewn Ecoleg Planhigion yn Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno a thîm addysgu ac ymchwil hynod lwyddiannus o academyddion rhagorol ynghyd ag adran fywiog sy'n tyfu.
Yn Adran y Biowyddorau, rydyn yn cynnig 4 cynllun gradd israddedig sydd wedi’u hachredu gan y Gymdeithas Frenhinol Bioleg, mewn bioleg, ecoleg a chadwraeth, bioleg y môr a sŵoleg, ynghyd â graddau Meistr ymchwil a graddau Meistr a addysgir poblogaidd sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys ein gradd MSc newydd mewn Bioamrywiaeth a Chadwraeth Fyd-eang a’n MSc mewn Adfer a Chadwraeth Morol. Mae ein hadran ym Mharc Singleton hardd, yn wynebu'r traeth, ac mae'n agos at ardaloedd naturiol godidog gan gynnwys Penrhyn Gŵyr, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro, sy'n wych ar gyfer addysgu ein cyrsiau maes. Mae gennym gyfleusterau modern gwych, gan gynnwys ein llong catamaran 18m newydd ar gyfer ymchwil ac addysgu, a'r Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR) sy'n ganolfan flaenllaw yn y DU. Hefyd, mae'r gwerthusiad REF diweddaraf wedi dyfarnu bod 100% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagori'n rhyngwladol.
Yn y swydd hon, byddwch chi’n cyfrannu at addysgu ein graddau BSc ac MSc mewn Ecoleg Ddaearol, gan gynnwys technegau a dylunio arolygon ecolegol, sgiliau adnabod planhigion, ecoleg a chadwraeth amgylcheddau tymherus a throfannol, y rhestr goch a chynlluniau adfer rhywogaethau, cyrsiau maes yn y DU a thramor. Canolbwynt ein gwaith addysgu yw’r myfyriwr a'n nod yw ffurfio ecolegwyr amryddawn, gan gyfuno arbenigedd ecolegol/hanes naturiol, meintiol a chymhwysol, er mwyn cynyddu eu posibiliadau cyflogadwyedd i'r eithaf. Mae gennym ymagwedd golegol iawn yn adran y Biowyddorau. Byddwch yn cael eich mentora gan academyddion profiadol ac yn dod yn rhan gwbl integredig o'n Hadran.
Mae'r swydd yn gofyn am radd ôl-raddedig yn y Biowyddorau a meysydd cysylltiedig neu brofiad cyfwerth, y gallu i ddarparu dysgu ac addysgu myfyrwyr o safon, ymrwymiad i wella profiad cyffredinol myfyrwyr, a phrofiad perthnasol ym maes ymchwil. Mae'r rôl ar gael o 1af Ionawr 2027 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr