Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01703
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£39,906 i £46,049 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
12 Hyd 2026
Dyddiad Cyfweliad
26 Hyd 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Emma Squires e.l.squires@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae’r Platfform Data Niwrolegol (NDP) yn blatfform ymchwil dibynadwy byd-eang a gyflwynir gan Brifysgol Abertawe drwy’r Platfform e-Ymchwil Diogel (SeRP). Gan adeiladu ar alluoedd sefydledig Porth Data DPUK, mae NDP yn cefnogi rhaglenni ymchwil niwrolegol a hybiau data drwy ddarparu isadeiledd diogel, gwasanaethau cynefino a churadu data, llywodraethiant, darganfod, mynediad a dadansoddi. Mae’n dod â data carfanau, clinigol, delweddu, genomig cymhleth a data ymchwil arall ynghyd fel gall ymchwilwyr cymeradwy ddarganfod a dadansoddi’r data hwn mewn amgylcheddau diogel a rheoledig.

Bydd Rheolwr Data’r Platfform Data Niwrolegol yn darparu arweinyddiaeth weithredol ar gyfer rheoli data ar draws y portffolio. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod gwasanaethau caffael, derbyn, gwirio, prosesu, dogfennu, storio, rhyddhau a stiwardiaeth barhaus data’n cael eu cydlynu a’u cyflawni’n weladwy ac i safonau y cytunir arnynt.

Mae’r rôl yn gofyn am brofiad sylweddol o reoli data ymchwil carfanau neu iechyd cymhleth. Mae profiad o ddata carfanau dementia, heneiddio neu niwrolegol yn ddymunol.

Bydd deiliad y swydd yn cyfuno dealltwriaeth dechnegol ag arweinyddiaeth weithredol gref, sgiliau rheoli rhanddeiliaid a’r gallu i sefydlu rheolaethau a blaenoriaethau clir a rheoli gwybodaeth.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr