Tiwtor Iaith Saesneg (Tiwtor TNE) Cyflenwi yn ystod Cyfnod Mamolaeth
- Rhif y Swydd
- SU01684
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,610 i £38,784 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Arall - Gweler y disgrifiad swydd
- Dyddiad Cau
- 11 Medi 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 15 Medi 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Alison Davies alison.j.davies@swansea.ac.uk
- Lisa Langley L.J.Langley@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae’r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg am benodi tiwtor Addysg Drawswladol i ymuno â rhaglen addysg drawswladol sy'n tyfu yn Tsieina.
Bydd y tiwtor Addysg Drawswladol yn gyfrifol am gyflwyno dosbarthiadau iaith Saesneg mewn prifysgol Peirianneg yn Tsieina.
Bydd gofyn iddo hefyd weithio yn Abertawe yn cyflwyno cyrsiau haf.
Mae prif gyfrifoldebau’r rôl yn cynnwys:
• Addysgu fel aelod o dîm addysgu bach dramor ar raglen astudio mewn amrywiaeth o amgylcheddau, o diwtorialau grŵp bach/unigol i ddosbarthiadau mawr.
• Datblygu a diweddaru deunyddiau a dulliau addysgu a gweithredu gweithdrefnau a meini prawf asesu sefydledig o fframweithiau y cytunwyd arnynt
• Ymgymryd â dyletswyddau a gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud ag addysgu a all gynnwys marchnata’r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg a sefydlu perthnasoedd proffesiynol dramor.
• Cynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol yn ôl yr angen wrth gynnal cofnodion manwl o bresenoldeb a gwaith a gwblhawyd ym mhob dosbarth.
• Addysgu ar gyfer y Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg o fis Mehefin i fis Medi neu yn ôl yr angen
Yn ELTS, rydym yn ymfalchïo yn ein hyfforddiant iaith Saesneg proffesiynol ac o ansawdd uchel, ac yn cynnig amrywiaeth o raglenni EFL, EAP ac ESP, yn ogystal â chyrsiau hyfforddiant athrawon CELTA. Er mai ein prif flaenoriaeth yw datblygiad ieithyddol, mae gofal bugeiliol ein myfyrwyr bob amser wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud hefyd. Mae ethos o gyswllt personol cryf a chefnogol yn rhan o holl weithgareddau ELTS, ac rydym yn gweithio'n galed i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu a chyflawni ei botensial llawn.
Mae'r swydd hon yn galw am gyfrannu at addysgu, asesu myfyrwyr a goruchwyliaeth yn ELTS. Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd hon ddarparu dysgu ac addysgu o safon uchel i fyfyrwyr, ac ymrwymiad i wella profiad cyffredinol y myfyrwyr.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr