- Rhif y Swydd
- SU01666
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 24 Awst 2026
- Interview Dates
- 22 Medi 2026 - 25 Medi 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Chris Pak C.A.Pak@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Ymchwil â sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol ac angerdd am effaith amgylcheddol a chymdeithasol. Bydd gennych rôl allweddol yn y prosiect 'Retrofitting for the Future – Nature-Based Solutions to Climate Adaptation’, prosiect amlddisgyblaethol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Mae'r prosiect yn archwilio dimensiynau diwylliannol, cymdeithasol ac ecolegol ôl-osod bioffilig, gan integreiddio natur mewn adeiladau, drwy’r Adeilad Byw Bioffilig yn Abertawe (y Biom). Mae hyn yn cynnwys trawsnewid hen adeilad Woolworths yn ddatblygiad defnydd cymysg sy'n integreiddio natur, gan gyfuno tai cymdeithasol â gofod am fentrau cynaliadwy a gweithgarwch cymunedol.
Byddwch yn gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol sy'n rhychwantu pensaernïaeth, ecoleg, y gyfraith, llenyddiaeth ac anthropoleg, ochr yn ochr â phartneriaid ym meysydd adeiladu, tai cymdeithasol, isadeiledd gwyrdd ac atebion ar sail natur.
Mae'r rôl yn canolbwyntio ar archwilio posibiliadau byw mewn ffordd fioffilig yn y dyfodol drwy waith ymchwil creadigol a myfyriol. Byddwch yn cefnogi cyd-greu ar sail celf gyda chymunedau, gan ddefnyddio dulliau megis adrodd straeon, celfyddydau gweledol a dylunio ac eco-farddoniaeth. Byddwch yn llunio ac yn cyflwyno gweithdai gyda chymunedau ac ysgolion ac yn cyfrannu at ddatblygu allbynnau creadigol a naratif.
Byddwch hefyd yn cefnogi gweithgareddau ymchwil ehangach, gan gynnwys casglu a dadansoddi data a pharatoi allbynnau i'w cyhoeddi.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cydweithio, addasu a bod yn rhagweithiol. Bydd gennych sgiliau datrys problemau cryf a'r gallu i weithio ar draws disgyblaethau a chyda phartneriaid amrywiol (gweler y Disgrifiad Swydd i gael mwy o fanylion).
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgriad swydd.docx Lawrlwytho FHSS-Llyfryn yr Ymgeisydd(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr