- Rhif y Swydd
- SU01648
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Awst 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 20 Awst 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Rhian Jones Rhian.C.Jones@swansea.ac.uk
- Jonathan Mciver-Janes J.R.P.Mciver-Janes@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol trefnus a chreadigol sy'n frwdfrydig am ddata, cyfathrebu a gwneud gwahaniaeth? Mae Prifysgol Abertawe'n chwilio am Swyddog Marchnata a Rheoli Data i ymuno â'r Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM), canolfan ymchwil ac arloesi o fri rhyngwladol sydd yn rheng flaen sector lled-ddargludyddion y DU sy'n tyfu'n gyflym.
Mae'r rôl gyffrous hon yn cyfuno rheoli data â marchnata a chyfathrebu strategol, gan gynnig cyfle i helpu i hyrwyddo cyflawniadau canolfan ymchwil arloesol sydd â phortffolio prosiectau gwerth mwy nag £80 miliwn. Gan weithio'n agos gyda phartneriaid academaidd, technegol ac ym myd diwydiant, byddwch yn sicrhau bod data perfformiad allweddol yn cael ei gasglu a'i ddilysu'n gywir ac y cyflwynir adroddiadau cywir amdano, gan drawsnewid gwybodaeth gymhleth yn adroddiadau, cyflwyniadau a chynnwys hyrwyddo sy'n ennyn diddordeb amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys cyrff cyllido.
Byddwch yn arwain gwaith i gydlynu ymgyrchoedd marchnata ar draws sianeli digidol a thraddodiadol, yn cynorthwyo wrth gynnal digwyddiadau, arddangosfeydd ac ymweliadau gan randdeiliaid ac yn cyfrannu at ddatblygu brand CISM yn barhaus. Byddwch chi hefyd yn monitro perfformiad ymgyrchoedd, yn nodi cyfleoedd i wella ac yn helpu i gyfleu effaith ymchwil ac arloesi sy'n torri tir newydd.
Os ydych chi'n chwilio am rôl amrywiol a gwobrwyol, lle gallwch gyfuno meddwl yn ddadansoddol â chyfathrebu creadigol, gan gefnogi ymchwil sy'n llunio dyfodol technolegau lled-ddargludyddion, hoffem glywed gennych.
Caiff y swyddi hyn eu hariannu gan raglen Cyflymu Effaith ar Sail Lle Lled-ddargludyddion Cyfansawdd EPSRC De Cymru (SWCS PB-IAA).
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr