- Rhif y Swydd
- SU01646
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 2 Awst 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 11 Awst 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Timothy Burns t.burns@swansea.ac.uk
- Sarah Roberts s.g.roberts@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y Darlithydd yn gyfrifol am gydlynu nifer o fodiwlau israddedig mewn ffiseg a/neu fathemateg ar gyfer myfyrwyr ffiseg, gan gynnwys darlithio, cynnal gweithdai datrys problemau, paratoi a marcio asesiadau parhaus ac arholiadau terfynol, a rheoli tudalennau'r modiwl yn yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir Canvas.
Gall y swydd hefyd gynnwys cefnogi cyflwyno modiwlau eraill, er enghraifft bod yn ail farciwr ar waith cwrs neu arholiadau, cynnal gweithdai, a chefnogi labordai cyfrifiaduron neu sesiynau ymarferol.
Bydd disgwyl i'r sawl a benodir oruchwylio a marcio projectau ymchwil israddedig ar Lefel 6 a 7 y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch.
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sydd â gallu amlwg i ddysgu Astroffiseg neu Disgyrchiant a Cosmoleg.
Fel darlithydd mewn ffiseg, bydd deiliad y swydd yn aelod o'r Bwrdd Astudiaethau, ac o'r Bwrdd Arholi, mewn Ffiseg, a bydd disgwyl iddo gyfrannu at weithgareddau'r Byrddau hyn.
Swydd amser llawn am gyfnod penodol o 12 mis yw hon.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg ac Ymchwil (Addysg). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr