Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01638
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
8 Medi 2026
Dyddiad Cyfweliad
17 Medi 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y rôl hon yn ystod cyfnod mamolaeth tan 31 Awst 2027.

Mae Gwasanaeth Marchnata'r Brifysgol yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol (MRI). Mae'r Gwasanaeth Marchnata'n gyfrifol am:

  • Ddarparu allbynnau marchnata sy'n gyson â nodau strategol a gwerthoedd y Brifysgol
  • Ymrwymiad i ddarparu ymgyrchoedd, cynnwys, atebion digidol, brand a chynhyrchu creadigol o safon sy'n seiliedig ar ganlyniadau ac sy'n gwella enw da Prifysgol Abertawe.
  • Arddangos rhagoriaeth, amrywiaeth ac effaith gweithgareddau'r Brifysgol.

Bydd deiliad rôl y Swyddog Marchnata yn y Tîm Ymgyrchoedd yn cefnogi'r Rheolwr Marchnata i gyflawni gweithgareddau marchnata ar draws ystod o sianeli, cynhyrchion a chynulleidfaoedd sy'n cyd-fynd â nodau a gwerthoedd strategol y Brifysgol.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon feddu ar sgiliau trefnu a rheoli prosiectau ardderchog, ynghyd â bod yn feddyliwr creadigol â hanes o gyflawni gweithgarwch a chynlluniau marchnata sy'n cyflawni canlyniadau amlwg, a dylai allu gweithio'n annibynnol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr