Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01631
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
21 Gorff 2026
Dyddiad Cyfweliad
12 Awst 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe am benodi Darlithydd yn y Gwyddorau Biofeddygol (y Gwyddorau Gwaed/Imiwnohaematoleg) am gyfnod penodol yn ystod cyfnod mamolaeth a chefnogi datblygiad a chyflwyniad parhaus ein rhaglenni ôl-raddedig yn y Gwyddorau Biofeddygol.

Mae'r rôl yn cynnig y cyfle i gyfrannu at addysg a datblygiad Gwyddonwyr Biofeddygol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol yn un o Ysgolion Meddygol blaenllaw'r DU. Gan weithio mewn amgylchedd academaidd cefnogol a chydweithredol, byddwch yn sicrhau addysgu o ansawdd uchel ar draws y gwyddorau biofeddygol, gyda chyfleoedd i gyfrannu at feysydd cysylltiedig fel ffarmacoleg a’r gwyddorau meddygol ac imiwnoleg. Mae'r swydd yn gyfle gwych i gymhwyso eich arbenigedd proffesiynol, ymgysylltu â chymuned amrywiol o fyfyrwyr, a gwella eich proffil academaidd trwy ysgolheictod, arloesedd, a chymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil ac addysgu ehangach yr Ysgol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus arbenigedd yn y gwyddorau gwaed, gan gynnwys trallwysiad gwaed a/neu imiwnohaematoleg. Byddem yn croesawu’n arbennig ymgeiswyr sydd â gwybodaeth gyflenwol neu brofiad addysgu mewn ffarmacoleg, ffarmacoleg glinigol, therapiwteg, neu ddisgyblaethau biofeddygol cysylltiedig sy’n cyfrannu at ddealltwriaeth integredig o iechyd a chlefydau dynol. Byddai profiad fel Biowyddonydd, Gwyddonydd Clinigol, Ffarmacolegydd, neu o gyflwyno addysg Biowyddoniaeth, Gwyddoniaeth Feddygol, neu Ffarmacoleg yn fanteisiol. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr sydd â phrofiad addysgu a gafwyd trwy leoliadau gofal iechyd, clinigol neu hyfforddiant proffesiynol eraill i wneud cais hefyd.

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at addysgu ar draws portffolio ehangach y gwyddorau bywyd yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys cyfleoedd i gefnogi modiwlau sy'n ymwneud â’r gwyddorau biofeddygol, ffisioleg ddynol, patholeg, ffarmacoleg, a meddygaeth drawsfudol, a darperir cymorth priodol. Bydd cyfleoedd hefyd i ymgysylltu a chyfrannu at weithgareddau ymchwil presennol yn yr Ysgol Feddygaeth, yn unol â chryfderau ymchwil cyfredol.

Byddai profiad o ddatblygu a chymhwyso technolegau dysgu digidol sy'n gwella'r broses o droi damcaniaeth wyddonol yn ymarfer biofeddygol a chlinigol, ac sy'n hyrwyddo profiad myfyrwyr cynhwysol a diddorol, yn ddymunol.

Mae'r swydd cyflenwi hon yn ystod cyfnod mamolaeth yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, un o Ysgolion Meddygol mwyaf blaenllaw'r DU, a chyfrannu at addysg a datblygiad y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr biofeddygol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a graddedigion ffarmacoleg.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg ac Ymchwil (Addysg). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr