- Rhif y Swydd
- SU01625
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Academi Hywel Teifi
- Lleoliad
- Arall - Gweler y disgrifiad swydd
- Dyddiad Cau
- 12 Gorff 2026
- Interview Dates
- 20 Gorff 2026 - 22 Gorff 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Iestyn Llwyd i.llwyd@abertawe.ac.uk
- Rhian Haf Bevan r.h.bevan@abertawe.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe yn dymuno penodi Tiwtor Gweithluoedd i ddarparu gwersi Cymraeg i weithluoedd sectorau gwaith penodol, gyda’r gallu i ddarparu gwersi a chefnogaeth ysgogol i ddysgwyr ar bob lefel.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion brwdfrydig a phrofiadol am swydd Tiwtor Gweithleoedd (rhan-amser) i ymuno â thîm Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (DCABA). Mae hon yn swydd ar sail cytundeb cyfnod penodol hyd at 31 Gorffennaf 2027, gyda’r posibilrwydd o ymestyn yn ddibynnol ar drefniadau cyllido’r sector wedi hynny.
Bydd y deiliad swydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cyrsiau Cymraeg i gyflogwyr a’u gweithluoedd, gyda’r nod o gynyddu nifer y bobl sy’n dysgu ac yn defnyddio’r Gymraeg mewn sectorau a sefydliadau. Disgwylir i’r tiwtor addysgu rhwng 10 a 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd, wyneb-yn-wyneb neu’n rhithiol, a gallu darparu ar ystod y lefelau iaith – o ddechreuwyr i ddysgwyr hyfedr.
Bydd y rôl yn cynnwys asesu a chefnogi dysgwyr, cydweithio â chydweithwyr a rhanddeiliaid, a chyfrannu at sicrhau ansawdd uchel y ddarpariaeth. Bydd y deiliad swydd hefyd yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o Diwtoriaid Gweithleoedd dan arweiniad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Dylai ymgeiswyr feddu ar safon uchel o Gymraeg, profiad ystyrlon o addysgu’r Gymraeg i oedolion, sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, a’r gallu i ddefnyddio technoleg ddigidol yn effeithiol i gefnogi dysgu, a chyfrannu at weithgareddau dysgu anffurfiol. Mae’r gallu i deithio o fewn rhanbarth Ardal Bae Abertawe a gweithio’n hyblyg yn unol ag anghenion y ddarpariaeth yn hanfodol.
Ceir manylion llawnach am gyfrifoldebau’r swydd ynghyd â’r manyleb person yn y Swydd Ddisgrifiad.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu cais ar-lein yn Gymraeg gan ystyried y meini prawf uchod yn ofalus, ac i ddarparu tystiolaeth sy’n dangos eich gallu / potensial i’w cyflawni. Yn ogystal â darparu CV cyfredol, cyflwynwch ddatganiad yn amlinellu beth sydd gennych i’w gyfrannu i’r swydd. (hyd at 1,000 gair)
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr