Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01624
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
7 Gorff 2026
Dyddiad Cyfweliad
13 Gorff 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Professor Chedly Tizaoui C.TIZAOUI@SWANSEA.AC.UK

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Adran Peirianneg Gemegol yn recriwtio Cynorthwy-ydd Ymchwil i gefnogi rhaglen ymchwil arloesol ar adfer carbon gronynnog
actifedig (GAC) at ddiben trin dŵr yfed.

 Wedi'i ariannu gan OFWAT o dan Ffrwd Catalydd y Sialens Torri Tir Newydd ym Maes Dŵr 4, mae angen Cynorthwy-ydd Ymchwil (am gyfnod o 24 mis) i weithredu offer carbon actifedig peilot fel rhan o bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a'r diwydiant dŵr, dan arweiniad Dŵr Cymru.

Bydd y cyfle cyffrous hwn yn cefnogi prosiect ymchwil cydweithredol i ymchwilio i dechnegau adfer arloesol ar y safle ar gyfer carbon gronynnog actifedig (GAC), proses allweddol a ddefnyddir wrth drin dŵr yfed er mwyn cael gwared â deunydd organig naturiol a halogyddion eraill. Nod y prosiect yw cynnig ffyrdd o adfer carbon sy'n fwy cynaliadwy a chosteffeithiol na'r dulliau traddodiadol, gan gyfrannu at wella gwydnwch a lleihau effeithiau amgylcheddol trin dŵr. 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rôl allweddol wrth gynnal y rhaglen ymchwil arloesol hon, drwy weithredu a gwerthuso system triniaeth GAC ar raddfa beilot ar un o safleoedd triniaeth Dŵr Cymru. Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys casglu samplau yn y maes, dadansoddi yn y labordy, rheoli data, gwerthuso canlyniadau'n ystadegol a pharatoi adroddiadau a chyflwyniadau technegol. Bydd y rôl yn cynnwys cydweithredu'n agos ag ymchwilwyr academaidd, arbenigwyr y diwydiant dŵr a gwyddonwyr proses er mwyn creu data o ansawdd uchel a fydd yn llywio penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol a’r posibilrwydd o roi'r dechnoleg ar waith ar raddfa lawn, gan ddarparu cyfleoedd i gyfrannu at gyhoeddiadau a gweithgareddau lledaenu.

Adran Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe fydd prif leoliad y Cynorthwy-ydd Ymchwil ond bydd yn treulio rhan o'i amser yn gweithio mewn cyfleusterau trin dŵr gweithredol ac yn teithio rhwng safleoedd y prosiect. Mae'r rôl yn cynnig cyfle unigryw i gyfrannu at ymchwil gymhwysol a gaiff effaith uniongyrchol ar y diwydiant, wrth ddatblygu arbenigedd mewn technolegau trin dŵr, gweithredu offer peilot, monitro amgylcheddol a thechnegau dadansoddi yn y labordy. 

Dylai fod gan ymgeiswyr radd neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth wyddonol neu beirianneg berthnasol, ynghyd â sgiliau cryf o ran gwaith ymarferol yn y labordy a rheoli data. Byddai profiad o drin dŵr, monitro amgylcheddol neu weithredu offer peilot yn fantais 

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr