Darlithydd - Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Ymwelwyr Iechyd)
- Rhif y Swydd
- SU01623
- Math o Gytundeb
- Parhaol
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 13 Gorff 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 22 Gorff 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Jonathan Thomas Jonathan.W.Thomas@swansea.ac.uk
- Nicola Peet N.L.Peet@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol am benodi Darlithydd brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i ymuno a'r tîm Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN). Prif ffocws y rôl hon yw cynorthwyo wrth ddarparu a datblygu’n barhaus y rhaglen SCPHN i Ymwelwyr Iechyd.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at addysgu ar draws modiwlau SCPHN a darpariaeth nyrsio iechyd cyhoeddus a chymunedol perthynol, yn cefnogi dysgu a rennir, cydweithredu rhyngbroffesiynol, a datblygu ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant, teuluoedd a chymunedau. Yn ogystal, gall y rôl gynnwys cyfrannu at addysgu a chefnogi myfyrwyr ar draws yr Adran Nyrsio mewn ystod o fodiwlau israddedig, ôl-raddedig a datblygiad proffesiynol parhaus.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at addysgu o safon, asesu, datblygu'r cwricwlwm a goruchwylio myfyrwyr. Mae'r rôl yn gofyn am hygrededd clinigol cryf ym meysydd ymweliadau iechyd ac ymarfer nyrsio iechyd cyhoeddus, ochr yn ochr â'r gallu i gefnogi nyrsys cofrestredig mewn rolau iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda chydweithwyr academaidd, partneriaid ymarfer a chyrff proffesiynol i sicrhau bod rhaglenni'n bodloni gofynion rheoleiddio, proffesiynol a'r gweithlu ledled Cymru.
___________________________________________
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Bydd deiliad y swydd yn:
• Addysgu ar draws rhaglenni israddedig, ôl-raddedig a datblygiad proffesiynol parhaus sy'n berthnasol i SCPHN, ymweliadau iechyd neu nyrsio iechyd cyhoeddus
• Cyfrannu at arweinyddiaeth modiwlau a chyflwyno'r rhaglen Ymwelydd Iechyd SCPHN a darpariaeth iechyd cyhoeddus a chymunedol perthynol
• Cefnogi ymagwedd addysgu arloesol gan gynnwys efelychu, dysgu ar sail achosion, cyflwyno digidol a gweithgareddau dysgu sy'n canolbwyntio ar y gymuned
• Ymgymryd â gwaith asesu, marcio a darparu adborth adeiladol yn unol â rheoliadau'r Brifysgol
• Darparu cymorth academaidd, goruchwyliaeth a thiwtora personol i fyfyrwyr
• Cefnogi dysgu'n seiliedig ar ymarfer trwy ymgysylltu â goruchwylwyr ymarfer, aseswyr ymarfer, aseswyr academaidd a chyflogwyr sy’n bartneriaid
• Cyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm i sicrhau ei fod yn alinio â safonau SCPHN yr NMC, fframweithiau AaGIC, blaenoriaethau iechyd cyhoeddus a gofynion y gweithlu
• Cymryd rhan mewn prosesau sicrhau ansawdd gan gynnwys gwerthuso, monitro ac adolygu rhaglenni
• Datblygu a chynnal perthnasoedd cryf gyda sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd cyhoeddus a phartneriaid cymunedol
• Ymgymryd â gweithgarwch ysgolheictod, ymchwil neu ddatblygiad proffesiynol sy'n berthnasol i ymwelwyr iechyd, iechyd cyhoeddus plant a theuluoedd neu ymarfer nyrsio cymunedol
• Cefnogi mentrau recriwtio, cadw a dilyniant myfyrwyr
• Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol ac academaidd yn ôl yr angen yn yr Ysgol
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen darparu tystiolaeth foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth glir o’u cymhwyster ymwelydd iechyd SCPHN, eu profiad nyrsio iechyd cyhoeddus perthnasol, a'u profiad o gefnogi dysgwyr mewn lleoliadau ymarfer neu academaidd.
________________________________________
Manyleb Person
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau a chofrestriad proffesiynol
- Nyrs Gofrestredig â chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd mewn Nyrsio, Bydwreigiaeth, Iechyd Cyhoeddus neu bwnc cysylltiedig
- Cymhwyster Nyrsio Cymunedol Arbenigol mewn Iechyd Cyhoeddus fel Ymwelydd Iechyd
- Gradd Meistr mewn maes pwnc perthnasol neu barodrwydd i weithio tuag at un
- Cymhwyster addysgu neu barodrwydd i ennill Cymrodoriaeth Advance HE
________________________________________
Profiad a Gwybodaeth
- Profiad clinigol cyfoes ym meysydd ymweliadau iechyd, iechyd cyhoeddus plant a theuluoedd neu ymarfer nyrsio iechyd cyhoeddus cymunedol
- Profiad o gefnogi dysgu myfyrwyr mewn lleoliadau ymarfer neu academaidd
- Dealltwriaeth o nyrsio iechyd cyhoeddus, iechyd plant a theuluoedd, diogelu, ymyrraeth gynnar a darparu gwasanaethau ar draws lleoliadau cymunedol
- Gwybodaeth am safonau’r NMC sy'n ymwneud ag addysg SCPHN, addysg ar ôl cofrestru ac ymarfer proffesiynol
- Profiad o asesu a goruchwylio myfyrwyr a rhoi adborth iddynt
- Dealltwriaeth o addysgu cynhwysol ac anghenion cymorth myfyrwyr
________________________________________
Sgiliau a Phriodoleddau
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
- Gallu i weithio ar y cyd ar draws amgylcheddau academaidd, clinigol, iechyd cyhoeddus, ac amlasiantaeth
- Ymrwymiad i ddarparu addysgu a phrofiad myfyrwyr o ansawdd uchel
- Gallu i gefnogi arloesedd cwricwlwm ac addysg sy'n alinio â gwasanaethau
- Sgiliau trefnu a rheoli amser effeithiol
________________________________________
Meini Prawf Dymunol
- Profiad o addysgu ym maes addysg uwch
- Profiad o gyflwyno addysg i Ymwelwyr Iechyd SCPHN, nyrsio iechyd cyhoeddus neu nyrsio cymunedol
- Profiad o weithgarwch ysgolheictod, ymchwil, archwilio neu wella gwasanaethau sy'n berthnasol i ymwelwyr iechyd neu nyrsio iechyd cyhoeddus
- Sgiliau iaith Gymraeg neu barodrwydd i ddatblygu’r rhain
________________________________________
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr