- Rhif y Swydd
- SU01612
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 2 Gorff 2026
- Interview Dates
- 13 Gorff 2026 - 14 Gorff 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Tegwen Malik f.t.malik@swansea.ac.uk
- Natalie De Mello n.demello@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Ysgol Reolaeth yn recriwtio cynorthwy-ydd ymchwil i weithio ar brosiect rhyngddisgyblaethol mewn cydweithrediad â'r Ysgol Feddygaeth. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddefnyddio efelychu ymdrochol ar gyfer datgywasgiad realiti rhithwir sy'n ddiwylliannol gynhwysol.
Mae'r prosiect hwn a ariennir gan Wellcome, grantiau ymchwil bach yr Academi Brydeinig a Leverhulme, yn archwilio sut gall amgylchoedd ymdrochol gefnogi datgywasgiad cyffredinol, a all gael ei ddefnyddio mewn sawl sector a lleoliad o gwmpas y byd i wella lles ac adferiad mewn ffyrdd sy'n ddiwylliannol gynhwysol. Gan ddefnyddio efelychu, realiti rhithwir ac ymdrochi, bydd y prosiect hwn yn dylunio ac yn peilota profiadau "datgywasgu" ymdrochol, gan ddefnyddio ymchwil y celfyddydau a'r dyniaethau mewn lles diwylliannol, dyluniad synhwyraidd, a naratif profiadau.
Mae'r prosiect yn archwilio sut mae safbwyntiau diwylliannol yn dylanwadu ar brofiadau o straen ac ymlacio.
Y nod yw gwella’r ddealltwriaeth o gynwysoldeb diwylliannol wrth ddylunio datgywasgiad digidol i ddarparu sylfaen ar gyfer ymchwil gymhwysol a rhyngddisgyblaethol yn y dyfodol mewn technolegau iechyd datgywasgu.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Byddai cefndir ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol, gan gynnwys adolygiadau llenyddiaeth, grŵp ffocws, a chamau cyfweliad, gan brofi'r defnydd o fesurau ffisiolegol (HR, BP) a seicolegol (Graddfa Straen Canfyddedig) ac adborth ansoddol.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr