- Rhif y Swydd
- SU01610
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 30 Meh 2026
- Interview Dates
- 16 Gorff 2026 - 17 Gorff 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Tegwen Malik f.t.malik@swansea.ac.uk
- Natalie De Mello n.demello@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno dau gwrs gradd meistr newydd mewn Rheoli Uwch (Technolegau Gofal Iechyd) a Rheoli Uwch (Chwaraeon, Busnes ac Arweinyddiaeth).
Gan adeiladu ar lwyddiant AgorIP, nod Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan y bartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gwaith yn y dinas-ranbarth ehangach, yw ehangu ei phortffolio i gefnogi agendâu cenhadaeth ddinesig a mentergarwch y Brifysgol a’i strategaeth chwaraeon, iechyd a lles. Mae'r Prosiect Sgiliau Agor: Chwaraeon, Iechyd a Lles yn defnyddio arbenigedd ar draws cyfadrannau i fynd i'r afael â'r bwlch mewn sgiliau yn y portffolio o sgiliau presennol Dinas-Ranbarth Bae Abertawe drwy greu Canolfan Rhagoriaeth Sgiliau Arloesi ar gyfer Chwaraeon, Iechyd a Lles.
Y nod yw cyflwyno mentrau Prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe mewn amgylchedd agored a chydweithredol ar gyfer dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn cynnwys canolfan ddysgu hybrid, datblygu cyrsiau/rhaglenni newydd a chreu cymuned ymarfer (i gysylltu dysgwyr). Bydd hyn yn golygu creu tîm gwasanaethau proffesiynol/academaidd hybrid i gefnogi datblygiad arfer a sgiliau arloesol mewn chwaraeon, iechyd a lles. Mae'r rôl yn rhan annatod o'r tîm hwnnw, yn rhan hollbwysig o'r gweithgarwch hwnnw, gan gynnwys gweinyddu a mewnbynnu i sicrhau bod y tîm yn gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon.
Bydd deiliad y rôl yn gorfod goruchwylio portffolio o raglenni sgiliau (a gweithdai) ar lefelau aeddfedrwydd amrywiol, gan gynorthwyo gyda sefydlu'r ganolfan ragoriaeth a helpu i ddatblygu cymuned ymarfer. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu ag academyddion uwch, dysgwyr proffesiynol, timau gwasanaeth proffesiynol, prif swyddogion a rhanddeiliaid eraill i gymryd y camau gweithredu priodol. Y gallu i weithio gyda rhanddeiliaid amrywiol, gan ddangos sgiliau trefnu clir, deall prosesau adrodd a gweinyddu cyllidwyr, sgiliau rheoli amser ardderchog, sgiliau rhyngbersonol da a'r gallu i addasu.
Bydd y rôl hefyd yn gofyn am ymchwilio i gyfleoedd, gan gynnwys archwilio sut i gael adnoddau ar gyfer y portffolio a helpu i gyflwyno elfennau hanfodol y prosiect.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gofynnir i ymgeiswyr am y rôl hon gwblhau ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio.
Dylai ymgeiswyr atodi'r canlynol i'r cais:
- Curriculum Vitae
- Llythyr eglurhaol sy'n amlinellu sut bydd eich profiad yn eich helpu i gyflwyno'r gweithgareddau yn y rôl hon