Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01603
Math o Gytundeb
Parhaol
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Swyddfa’r Is-ganghellor
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
29 Meh 2026
Dyddiad Cyfweliad
13 Gorff 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Louise Woollard L.A.Woollard@Swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym yn chwilio am Uwch-Swyddog Llywodraethiant profiadol i chwarae rhan allweddol wrth gynnig gwasanaeth llywodraethiant proffesiynol, lefel uchel sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer y Brifysgol.

Dyma gyfle cyffrous i weithio wrth wraidd gwneud penderfyniadau'r Brifysgol i sicrhau bod y safonau uchaf o lywodraethiant, cydymffurfiaeth rheoleiddiol ac effeithiolrwydd gweithredol yn cael eu bodloni.

Gan weithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Brifysgol, bydd deiliad y swydd yn cefnogi Cyngor y Brifysgol a'i bwyllgorau'n uniongyrchol er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau a bod prosesau llywodraethiant corfforaethol yn cydymffurfio â fframweithiau llywodraethiant a rheoleiddiol statudol y Brifysgol.

Bydd deiliad y swydd yn arwain y Tîm Llywodraethiant, sy'n rhan o Swyddfa'r Is-Ganghellor, yn rheolwr llinell ac yn rhoi arweiniad a chyfarwyddyd i aelodau'r tîm, gan oruchwylio'r tîm a phennu blaenoriaethau, gan wella cyflwyno a datblygu gweithdrefnau a systemau llywodraethiant i hwyluso a gwella gweithrediadau a chyfrannu at ddiwylliant o newid a gwella gwasanaethau'n barhaus.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am bortffolio o bwyllgorau a llywodraethiant y Brifysgol, gan ddatblygu arbenigedd i gynghori aelodau'r Cyngor a'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth a chydweithwyr eraill yn y Brifysgol mewn ffordd awdurdodol a phroffesiynol ar faterion llywodraethiant a bydd yn cyfrannu at fwy o ymwybyddiaeth am lywodraethiant.

Bydd deiliad y swydd yn sganio'r gorwel am arfer da, newidiadau a datblygiadau a bydd yn adolygu gofynion llywodraethiant a rheoleiddiol i nodi problemau, lle gall gwelliannau gael eu gwneud a chyflwyno atebion sy'n cael eu llywio gan arfer gorau'r sector gan ystyried gofynion ac amcanion penodol y Brifysgol.

Bydd deiliad y swydd yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i gefnogi'r Cyngor a'i bwyllgorau a sicrhau bod trefniadau llywodraethiant a chydymffurfiaeth rheoleiddio'r Brifysgol yn gadarn, yn addas at y diben ac yn gyfoes.

Mae'r swydd hon yn galw am ymddiriedaeth a natur broffesiynol uchel a bydd deiliad y swydd yn gweithio gydag ystod eang o wybodaeth sensitif felly bydd disgresiwn, cyfrinachedd a sensitifrwydd yn hanfodol.

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr