Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01600
Math o Gytundeb
Parhaol
Cyflog
£13.55 yr awr
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Ystadau a Gwasanaethau Campws
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Meh 2026
Interview Dates
29 Meh 2026 - 3 Gorff 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmeriaid yn gweithredu fel un o lysgenhadon rheng flaen Canolfan y Celfyddydau Taliesin, gan gyfrannu at amgylchedd proffesiynol, diogel, effeithlon a chroesawgar ar gyfer pawb sy'n ymwneud â lleoliadau celfyddydau'r Brifysgol a digwyddiadau a gweithgareddau cysylltiedig.

Caiff deiliad y swydd ei oruchwylio gan y Goruchwyliwr Digwyddiadau ar Ddyletswydd. Bydd y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmeriaid hefyd yn defnyddio ei fenter ei hun i gyflwyno'r profiad cwsmer gorau posibl i randdeiliaid ac ymwelwyr mewnol ac allanol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 2 - Eithaf da. Bydd deiliad y swydd yn gallu deall ystod o ohebiaeth sy'n gysylltiedig â'r swydd, cynnal sgwrs syml, ac ysgrifennu gohebiaeth weddol gywir yn Gymraeg. Bydd efallai angen troi at Saesneg i drafod materion cymhleth neu dechnegol.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol o wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr