- Rhif y Swydd
- SU01598
- Math o Gytundeb
- Parhaol
- Cyflog
- £29,959 i £33,482 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 5 Gorff 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 15 Gorff 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Rhys Jones r.r.jones@swansea.ac.uk
- Michael Hendy m.e.hendy@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Prifysgol Abertawe yn dymuno cyflogi Technegydd (Peirianneg Awyrofod) i ymuno â Chyfarwyddiaeth Gwasanaethau Proffesiynol y Gyfadran a darparu cymorth technegol o safon uchel ar draws gweithgareddau addysgu ac ymchwil. Gan weithio yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod y cyfleusterau Peirianneg Awyrofod yn gweithio'n ddiogel, yn effeithlon ac i safon broffesiynol uchel.
Gan weithio'n agos gyda staff academaidd, ymchwilwyr, myfyrwyr a chyd-dechnegwyr, byddwch chi'n cefnogi'r gwaith o ddydd i ddydd o gyflwyno sesiynau addysgu ymarferol, gweithgareddau ymchwil ac arddangosiadau. Mae hyn yn cynnwys paratoi labordai a chyfleusterau, cynnal a chadw, gwasanaethu a chalibradu cyfarpar arbenigol, a darparu cyngor arbenigol a chymorth technegol ymarferol i ddefnyddwyr.
Byddwch chi'n cyfrannu at ddatblygu ac addasu arbrofion, cefnogi gwaith maes ac ymweliadau â safleoedd yn ôl yr angen, a chynorthwyo gyda phrosesau caffael i sicrhau bod cyfarpar a deunyddiau ar gael pan fydd eu hangen. Mae ymrwymiad cryf at iechyd, diogelwch a chynaliadwyedd yn hanfodol oherwydd byddwch chi'n helpu i hyrwyddo safonau rhagorol a sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol.
Fel rhan o dîm technegol aml-fedrus cydweithredol, ‑byddwch chi'n cael eich annog i rannu arbenigedd ar draws disgyblaethau a chefnogi cydweithwyr yn ystod cyfnodau prysur neu absenoldebau, gan helpu i feithrin gwydnwch ar draws y Brifysgol. Mae Prifysgol Abertawe yn llofnodwr balch o Ymrwymiad y Technegwyr, ac mae'r rôl hon yn cynnig cyfleoedd i ymgysylltu â datblygiad proffesiynol, rhwydweithio a gwella sgiliau'n barhaus yn y sector addysg uwch ac yn y sector peirianneg ehangach.
Dyma gyfle ardderchog i dechnegydd profiadol ac uchel ei gymhelliant i wneud cyfraniad ystyrlon at brofiad y myfyrwyr, rhagoriaeth ymchwil ac arloesi technegol mewn Peirianneg Awyrofod.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr