Tiwtor Haf EFL - Y Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS)
- Rhif y Swydd
- SU01594
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Meh 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 15 Meh 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Jennifer Welti j.welti@swansea.ac.uk
- Alison Davies alison.j.davies@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg am recriwtio pedwar tiwtor EFL i weithio ar Raglen Haf Saesneg Gyffredinol.
Bydd tiwtoriaid EFL yn gyfrifol am gyflwyno dosbarthiadau Saesneg i grwpiau o fyfyrwyr rhyngwladol sy'n ymweld. Byddan nhw hefyd yn gyfrifol am hebrwng myfyrwyr ar deithiau i leoedd o ddiddordeb lleol ac am gynnal gweithgareddau cymdeithasol.
Mae prif gyfrifoldebau’r rôl yn cynnwys:
• Disgwylir i diwtoriaid gyda chontractau llawn addysgu hyd at 18 awr yr wythnos.
• Cynorthwyo gyda pharatoi deunydd addas ar gyfer yr holl ddosbarthiadau
• Cynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol fel bo angen i gynnal cofnodion manwl o bresenoldeb a'r gwaith a gwblhawyd ym mhob dosbarth.
• Cysylltu â thiwtoriaid eraill sy'n rhannu dosbarthiadau
• Cynnal tiwtorialau rheolaidd â myfyrwyr a rhoi gwybod am unrhyw broblemau i Gydlynydd y Cwrs
• Mynd i gyfarfodydd tîm pan fydd angen
• Mynd i holl deithiau a gwibdeithiau myfyrwyr
• Mynd i weithgareddau cymdeithasol wythnosol ar sail rota
• Mae gan staff addysgu ELTS gyfrifoldeb ar y cyd i gyflenwi ar ran cydweithwyr sydd yn absennol oherwydd salwch ar draws holl raglenni'r adran.
Yn ELTS, rydym yn ymfalchïo yn ein hyfforddiant iaith Saesneg proffesiynol ac o ansawdd uchel, ac yn cynnig amrywiaeth o raglenni EFL, EAP ac ESP, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi athrawon CELTA. Er mai ein prif flaenoriaeth yw datblygiad ieithyddol, mae gofal bugeiliol ein myfyrwyr bob amser wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud hefyd. Mae ethos o gyswllt personol cryf a chefnogol yn rhan o holl weithgareddau ELTS, ac rydym yn gweithio'n galed i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu a chyflawni ei botensial llawn.
Mae'r swydd hon yn galw am gyfrannu at addysgu, asesu myfyrwyr a goruchwyliaeth yn ELTS. Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd hon ddarparu gweithgarwch dysgu ac addysgu o safon uchel i fyfyrwyr, a dangos ymrwymiad i wella profiad cyffredinol y myfyrwyr.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol o wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol o wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr