Swyddog Achosion Myfyrwyr (Apeliadau, Cwynion ac Adolygiadau Terfynol)
- Rhif y Swydd
- SU01585
- Math o Gytundeb
- Parhaol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Addysg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 14 Meh 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 23 Meh 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Natalie Wathan n.a.wathan@swansea.ac.uk
- Jane Lewis Normand j.m.e.lewis-normand@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma rôl amser llawn am gyfnod penodol o 31 Gorffennaf 2026.
Prif nod y Swyddog Achosion Myfyrwyr fydd bod yn gyfrifol am arwain yn weithredol ar waith sy'n gysylltiedig ag Apeliadau, Cwynion, Adolygiadau Terfynol a gwaith arall yn ymwneud ag achosion myfyrwyr. Bydd yn gweithio mewn partneriaeth â Swyddogion Achosion Myfyrwyr eraill ac yn cefnogi ymagwedd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan ysgogi, datblygu a defnyddio'r
sgiliau i ddarparu atebion creadigol ac arloesol. Elfen hanfodol o'r rôl yw'r gallu i sicrhau bod ymatebion i achosion o ansawdd uchel, yn amserol, ac yn cefnogi'r broses o ddarparu profiad myfyrwyr o ansawdd uchel.
Yn atebol i'r Swyddog Achosion Myfyrwyr, bydd deiliad y swydd yn cefnogi gweithio mewn partneriaeth gyda staff Cyfadrannau ar draws y Brifysgol a chydweithwyr mewn adrannau Gwasanaethau Proffesiynol eraill a disgwylir iddo ddarparu gwasanaethau gweinyddol i fyfyrwyr a staff yn ôl yr angen.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn llawn cymhelliant, yn wydn, yn rhagweithiol, yn drefnus a dangos y gallu i gyfathrebu ag ystod eang o bobl a gallu parchu lefel uchel o gyfrinachedd. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a dylanwadu rhagorol, byddwch yn sefydlu hygrededd yn gyflym gyda staff ar bob lefel, a bydd gennych brofiad o gyflwyno prosesau ac arweiniad yn amserol ac yn effeithiol. Bydd gennych lygad craff am fanylion a'r gallu i weithio i derfynau amser tynn yn cyflawni canlyniadau mewn amgylchedd sy'n sensitif o ran amser.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr