- Rhif y Swydd
- SU01582
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £26,338 i £29,179 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Meh 2026
- Interview Dates
- 22 Meh 2026 - 23 Meh 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Jonathan Mciver-Janes J.R.P.Mciver-Janes@swansea.ac.uk
- Rhian Jones Rhian.C.Jones@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae portffolio CISM, sy'n werth mwy nag £80M ar hyn o bryd, yn cwmpasu ystod amrywiol o ffynonellau cyllid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, byd diwydiant, a sawl elfen o gyllid preifat a chyhoeddus gan gynnwys Cronfa Her Strategaeth Diwydiant, yr EPSRC, Innovate UK, Sefydliad Wolfson, a Sefydliad Henry Royce. Mae'r portffolio hwn yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth allweddol CISM, sef i) Synwyryddion ac Optoelectroneg; ii) Ynni Effeithlon, Colled Isel a Micro Electroneg; iii) Lled-ddargludyddion ar gyfer Technoleg Gofod a iv) ymdrech newydd mewn Cyfathrebu THz. Yn benodol, mae CISM yn bartner ym Mhrosiect Cam 1 Cronfa Strength in Places 'CS Connected' (SIPF), rhaglen Cyflymu Effaith yn Seiliedig ar Le Lled-ddargludyddion Cyfansawdd De Cymru ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd, a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol yr EPSRC a ddyfernir cyn bo hir mewn Sgiliau Dyfodol Diwydiant Lled-ddargludyddion y DU (UK-SIFS); menter newydd gyffrous gwerth £18.5M mewn ymchwil ôl-raddedig gyda Phrifysgol Leeds a 25 o bartneriaid diwydiannol. Mae CISM hefyd yn cynhyrchu incwm sylweddol o ffynonellau masnachol sy'n cynnig ystod o wasanaethau o ddeori busnesau bach a chanolig hyd at ddarparu hyfforddiant, ymchwil a datblygu pwrpasol a hyd yn oed gweithgynhyrchu sypiau bach.
Dyma gyfle cyffrous i weinyddwr ymuno â'r tîm gweithredol sefydledig yn CISM. Mae'r rôl hon yn cefnogi amrywiaeth o swyddogaethau gweinyddol gan gynnwys caffael, trefniadau teithio, monitro ac adrodd, mewnbynnu data, cefnogi cyfarfodydd a digwyddiadau, a pharatoi dogfennau archwilio. Efallai y bydd cyfle hefyd i ddeiliad y rôl roi cymorth ychwanegol sy'n benodol i brosiectau ar draws y portffolio.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr