- Rhif y Swydd
- SU01576
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £26,338 i £26,338 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Academi Hywel Teifi
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 29 Mai 2026
- Interview Dates
- 1 Meh 2026 - 5 Meh 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Iestyn Llwyd i.llwyd@abertawe.ac.uk
- Ffion Davies f.m.davies@abertawe.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae’r uned yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i gefnogi gweithgaredd ein swyddfa weinyddol o ddydd i ddydd, ynghyd ag ysgwyddo cyfrifoldeb dros weithredu systemau data perthnasol.
Mae’r rôl hon yn ganolog i weithrediad dydd-i-ddydd DCABA, gan weithio yn rhan o dîm gweinyddol bychan cyfrwng Cymraeg sy’n darparu cyngor a chefnogaeth rheng flaen i ddysgwyr a chydweithwyr. Mae lleoli’r dysgwr wrth galon ein darpariaeth yn egwyddor sylfaenol, ac mae’r rôl yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin, datblygu a chynnal egwyddorion craidd gwasanaeth cwsmer o safon uchel, gan gyfrannu at adeiladu ethos dysgu cadarnhaol a chefnogol.
Mae’r rôl wedi’i lleoli yn ein swyddfa weinyddol ar Gampws Singleton, ond gall fod gofyn yn achlysurol i fynychu cyfarfodydd neu ddigwyddiadau allanol, gan gynrychioli DCABA, Academi Hywel Teifi a’r Brifysgol.
Ceir manylion llawnach am gyfrifoldebau’r swydd ynghyd â’r manyleb person yn y Swydd Ddisgrifiad.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr