Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01571
Math o Gytundeb
Parhaol
Cyflog
£46,735 i £55,755 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyllid
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
26 Mai 2026
Dyddiad Cyfweliad
2 Meh 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym yn chwilio am Ddadansoddwr Systemau Cyllid i ymuno â'r tîm Systemau Cyllid yn yr Adran Gyllid ar sail barhaol.


Byddwch yn cefnogi gweinyddiaeth, cynnal a chadw a gwelliant parhaus system Cynllunio Adnoddau Menter y Brifysgol, sef Unit4, a'r systemau cyllid cysylltiedig, gan sicrhau bod gwasanaethau'n effeithlon, yn ddibynadwy ac yn diwallu anghenion cymuned ehangach y Brifysgol.


Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws yr Adran Gyllid ac adrannau eraill, byddwch yn datrys problemau, yn cefnogi systemau, yn arwain ar ddatblygiadau a gwelliannau systemau, ac yn cyfrannu at brosiectau sy'n gwella prosesau ac adrodd ariannol. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi systemau ac integreiddiadau cysylltiedig a dirprwyo ar ran y Pennaeth Systemau Cyllid pan fo angen.


Bydd gennych brofiad sylweddol o weithio gyda systemau cyllid mewn amgylchedd Cynllunio Adnoddau Menter (ERP), ynghyd â sgiliau cryf o ran dadansoddi, trefnu a datrys problemau.


Er mwyn llwyddo yn y rôl hon mae angen profiad blaenorol helaeth o weithio gyda system gyllid fel rhan o ateb ERP. 

Dylech chi hefyd allu dangos:
•    Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol 
•    Profiad o ddarparu gwasanaeth cymorth proffesiynol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer 
•    Y gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol a bodloni terfynau amser

Sgiliau TG cryf ar draws ystod o gymwysiadau meddalwedd

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr