Cynorthwy-ydd Ymchwil mewn Rhagfynegi Cysur Thermol ar sail Dysgu Peirianyddol/Deallusrwydd Artiffisial
- Rhif y Swydd
- SU01570
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 21 Mai 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 27 Mai 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Dr Hamidreza Eskandari Hamidreza.Eskandari@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe am benodi Cynorthwy-ydd Ymchwil rhan-amser i gefnogi'r prosiect "Model Rhagfynegol ar sail Dysgu Peirianyddol Esboniadol ar gyfer Cysur Thermol Adeiladau Sero Net." Nod y prosiect yw datblygu fframwaith dysgu peirianyddol sy'n effeithlon o ran data ac sy’n esboniadwy i ragfynegi cysur thermol a chefnogi rheoli adeiladau mwy clyfar, carbon isel yn Ninas ranbarth Bae Abertawe.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r Prif Ymchwilydd a chydweithwyr allanol i baratoi a dadansoddi ansawdd amgylcheddol dan do a data cysur defnyddwyr, gan gynnwys mesuriadau synhwyro a data o arolwg byr cysur. Bydd y rôl yn cynnwys glanhau, cysoni a sicrhau ansawdd setiau data; gan fynd i'r afael â gwerthoedd coll, labeli cysur prin, ac anghydbwysedd dosbarthu; a chymhwyso dulliau ychwanegu data megis SMOTE neu GAN lle bo'n briodol.
Prif ffocws y rôl fydd datblygu, hyfforddi, optimeiddio a gwerthuso modelau dysgu peirianyddol cryno, gan gynnwys Hybu Graddiant, Cefnogi Atchweliad Fector, a rhwydweithiau niwral bas. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at draws-ddilysu cadarn, optimeiddio Bayesaidd, datblygu modelau atgynyrchadwy, ac esboniadwy ar sail SHAP, i nodi effaith ffactorau megis tymheredd aer, tymheredd cymedrig pelydrol, lleithder cymharol, cyflymder aer, insiwleiddio dillad, a chyfradd fetabolaidd cysur thermol.
Bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil hefyd yn cefnogi datblygiad prototeip ymgynghorol a fydd yn barod ar gyfer System Rheoli Adeiladau, gan gynnwys allbynnau gweledol clir ac argymhellion ymarferol ar bwyntiau ac amserlenni. Bydd y rôl yn cyfrannu at weithgareddau allbwn, adrodd technegol, allbynnau academaidd, ymgysylltiad rhanddeiliaid a chyfnewid gwybodaeth y prosiect gyda phartneriaid rhanbarthol, gan gynnwys meithrin rhanddeiliad yn y sectorau rheoli, tai ac ynni.
Byddai'r rôl hon yn addas i ymgeisydd brwdfrydig sydd â phrofiad mewn dysgu peirianyddol Python, data synhwyro byd go iawn neu gyfres amser, a diddordeb mewn deallusrwydd artiffisial esboniadwy, adeiladau clyfar, cysur thermol neu arloesedd sero net. Swydd ran-amser am gyfnod penodol o 10 mis yw hon, ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr