Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01555
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
12 Mai 2026
Dyddiad Cyfweliad
1 Meh 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Aimee Grant Aimee.grant@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Cafodd Dr Aimee Grant, academydd Awtistig, gyllid gwerth £2.4 miliwn gan Ymddiriedolaeth Wellcome i weithio gydag Autistic UK a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru ar brosiect wyth mlynedd, Awtistiaeth o'r misglwyf tan y menopos.   Nod y swydd gysylltiedig yw parhau i gynnal ymchwil ansoddol hydredol gyda 25 o bobl ifanc Awtistig.

Byddwch yn gyfrifol am gyfweld â phob cyfranogwr hyd at ddwywaith dros y flwyddyn. Bydd cyfweliadau'n cael eu hwyluso trwy ddefnyddio dulliau creadigol wedi'u teilwra'n unigol, i hwyluso profiadau'r cyfranogwyr.  Mae'r astudiaeth wedi'i chostio'n ddigonol er mwyn i'r tîm ymchwil gael amser i feithrin perthnasoedd cefnogol a chydfuddiannol gyda chyfranogwyr i hwyluso cyfranogiad hirdymor â'r astudiaeth.

Rydym yn chwilio am gynorthwy-ydd ymchwil hunangymhellol a all fod yn rhan annatod o’r prosiect hwn, gan fodloni’r meini prawf yn y disgrifiad swydd. Dylai pob ymgeisydd ddangos gwybodaeth gref am Awtistiaeth, mewn paradigm sy'n cadarnhau niwroamrywiaeth, gan gynnwys person Awtistig, profiad personol, profiad ymchwil neu brofiad gwaith. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o gyhoeddi a/neu ennill grantiau yn y maes hwn yn benodol. Ar ben hynny, bydd gennych wybodaeth am y model cymdeithasol o anabledd a'r mudiad niwroamrywiaeth; yn ogystal ag ymrwymiad i werthfawrogi safbwyntiau'r gymuned Awtistig.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

a datganiad o ddim mwy na 1,000 o eiriau yn ymateb i'r cwestiwn hwn: Sut byddai eich gwybodaeth a'ch profiad o ran Awtistiaeth yn sicrhau eich bod yn gallu rhoi cefnogaeth ragorol i gyfranogwyr Awtistig yn yr astudiaeth hon?

Rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y GDG cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

 

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr