Academïau Dysgu Dwys: Cymorth Gweinyddol i Gyn-fyfyrwyr ac Addysg
- Rhif y Swydd
- SU01540
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £26,338 i £29,179 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 3 Mai 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 14 Mai 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Lisa Rinaldi lisa.rinaldi@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Ers 2021 mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi cynnal dwy o Academïau Dysgu Dwys (ILAs) blaenllaw Llywodraeth Cymru sy'n cynnig rhaglenni Doethurol, Meistr ac Addysg Weithredol ar gyfer Dysgwyr Proffesiynol o'r Diwydiannau Iechyd, Gofal Cymdeithasol, y Trydydd Sector a’r Gwyddorau Bywyd mewn meysydd polisi iechyd allweddol: “Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werthoedd” ac “Arloesi a Thrawsnewid”.
Rydym nawr yn chwilio am gydweithiwr rhagorol i roi Cymorth Gweinyddol i Gyn-fyfyrwyr ac Addysg er mwyn cryfhau'r berthynas rhwng yr Academïau Dysgu Dwys a'r gymuned dysgwyr proffesiynol. Mae'r swydd hon yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau ystyrlon â'n dysgwyr addysg broffesiynol yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, datblygu a chefnogi ymgysylltiad cyn-fyfyrwyr, cydlynu digwyddiadau a gwella ymgysylltiad gydol oes â'r Academïau Dysgu Dwys. Nod y rôl hon yw meithrin perthnasoedd â chyn-fyfyrwyr a darpar ddysgwyr proffesiynol newydd, gan arwain at ymdeimlad mwy o gymuned a'u cyfranogiad â'r Academïau Dysgu Dwys, yn ogystal â chefnogi gweinyddiaeth yr academïau.
Mae'r rôl yn amrywiol ac mae angen meddwl creadigol, gallu meithrin perthnasoedd, sylw cryf i ansawdd a manylion a sgiliau rheoli prosiectau. Byddai'r rôl yn addas i rywun sydd â'r brwdfrydedd a'r creadigrwydd i ddefnyddio ei sgiliau gweinyddol cryf, a'i brofiad o ddigwyddiadau a chyfathrebu i gyflwyno rhaglen ymgysylltu arloesol a llwyddiannus.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Recruitment_SoM_WELSH_15.5.pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr