- Rhif y Swydd
- SU01529
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £29,959 i £33,482 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 12 Ebr 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 24 Ebr 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Julian James J.B.James@swansea.ac.uk
- Nicky Billingham N.A.Billingham@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae cyfle cyffrous ar gael ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r swyddi mewn tîm newydd a ddatblygwyd i wella gofal bugeiliol mewn neuaddau preswyl a gwella bywyd myfyrwyr drwy chwarae rhan allweddol wrth groesawu myfyrwyr newydd a'u cefnogi gyda'u cyfnod pontio i'r Brifysgol.
Fel aelod o'r Tîm Bywyd Preswyl, byddwch yn gwella gofal bugeiliol mewn preswylfeydd ac yn gwella bywyd myfyrwyr drwy chwarae rhan allweddol wrth groesawu myfyrwyr newydd a'u cefnogi gyda'u cyfnod pontio i'r Brifysgol.
Gan weithio ochr yn ochr â thimau Bywyd Myfyrwyr, Cyfadrannau, ymatebwyr cyntaf, timau llety a diogelwch, Undeb y Myfyrwyr a mwy, bydd ein tîm yn meithrin ymdeimlad o berthyn a chysylltedd i fyfyrwyr sy'n byw mewn llety wedi'i rannu. Drwy ganolbwyntio ar ymgysylltu â myfyrwyr, bydd y tîm yn meithrin cymuned gampws gadarnhaol, barchus a chefnogol.
Bydd y tîm yn nodi ac yn ymgysylltu â myfyrwyr sy'n agored i niwed a allai fod yn profi anawsterau neu'n dangos arwyddion o fod yn ynysig ac yn ymateb yn rhagweithiol i gychwyn y cymorth priodol.
Bydd gennych gyfrifoldeb ar y cyd am hyfforddi a chefnogi rhwydwaith o Gynorthwywyr Bywyd Preswyl, am gydlynu rhaglen weithgareddau ddiddorol ym Mhreswylfeydd y campws, ac am gasglu adborth myfyrwyr i ddatblygu ymgyrchoedd a strategaethau arloesol ar gyfer gwella.
Rhaid i chi fod yn unigolyn rhagweithiol a brwdfrydig a fydd â'r gallu i ymgysylltu ag ystod amrywiol o bobl a meithrin perthynas yn gyflym. Byddwch yn unigolyn brwdfrydig, hyderus, sy'n mwynhau rhyngweithio ag eraill. Byddwch yn gallu cyfrannu'n llawn at y broses o ymgorffori'r Tîm Bywyd Preswyl fel swyddogaeth hanfodol yn y Brifysgol ac fel rhan o'n hymrwymiad i gynnig y profiad myfyrwyr gorau posibl ym Mhrifysgol Abertawe.
Angen gweithio patrwm sifftiau gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Swydd 35 awr yr wythnos ar gontract tymor penodol o 12 mis yw hon.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yn rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr