- Rhif y Swydd
- SU01520
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £23,881 i £25,733 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 12 Ebr 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 22 Ebr 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Jess Lawson Hughes Jessica.l.hughes@swansea.ac.uk
- Samantha Beynon s.r.beynon@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r gwasanaeth Cyngor Ariannol yn wasanaeth rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, sy'n rhan o is-adran Cymorth a Chadw Myfyrwyr y Gyfarwyddiaeth Bywyd Myfyrwyr.
Mae'r gwasanaeth yn symleiddio rheoli ariannol i fyfyrwyr, yn hyrwyddo llythrennedd ariannol ac yn cynnig cyngor a chymorth teilwredig i rymuso myfyrwyr i lywio heriau ariannol â hyder. Mae'r Cynorthwy-ydd Cyngor Ariannol yn cynnig cymorth gweinyddol hanfodol mewn tîm prysur sy'n ymdrin â myfyrwyr, gan gynnig gwybodaeth arbenigol a brysbennu ymholiadau cymhleth gan fyfyrwyr o ran cyllid.
Mae'r Cynorthwy-ydd Cyngor Ariannol yn cynnig cymorth gweinyddol hanfodol mewn tîm prysur sy'n ymdrin â myfyrwyr, gan gynnig gwybodaeth arbenigol a brysbennu ymholiadau cymhleth gan fyfyrwyr o ran cyllid. Bydd deiliad y swydd yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer materion arian myfyrwyr o ddydd i ddydd gan arwain at weithredu neu gyfeirio at gynghorwyr Arian - Bywyd Myfyrwyr a/neu wasanaethau eraill pan fo angen. Bydd y Cynorthwy-ydd Cyngor Ariannol yn ymdrin ag amrywiaeth o ymholiadau gan fyfyrwyr, staff a chysylltiadau eraill ar draws amrywiaeth o gyfryngau mewn modd proffesiynol, gan gadarnhau eu gofynion ac ymateb yn briodol. Bydd deiliad y swydd yn helpu i ateb ymholiadau o ran cyllid a'r Cronfeydd Caledi, ynghyd â nodi a brysbennu ymholiadau cymhleth, gan eu trosglwyddo i aelodau cywir tîm ehangach Arian -Bywyd Myfyrwyr ar gyfer rhagor o gamau gweithredu. Bydd y Cynorthwy-ydd Cyngor Ariannol yn rôl allweddol wrth fonitro mewnflychau e-bost y gwasanaeth gan sicrhau bod targedau ymateb yn cael eu bodloni.
Bydd gweithio ar y cyd ag aelodau tîm Cyngor Ariannol a BywydMyfyrwyr yn allweddol, er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig. Drwy sefydlu perthnasoedd gweithio â chysylltiadau allweddol i wella lefelau gwasanaeth, bydd deiliad y swydd yn cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm, gan gynnwys: monitro data; cadarnhau agendâu cyfarfodydd a chymryd cofnodion cyfarfodydd; diweddaru systemau a chronfeydd data gweinyddol â gwybodaeth gywir a llunio adroddiadau gweithgarwch manwl megis dangosyddion perfformiad allweddol y tîm; Llunio adroddiadau wythnosol am wariant a gweithgareddau cyllidebol perthnasol; casglu a choladu adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth; Cynorthwyo tîm Arian -Bywyd Myfyrwyr wrth ddatblygu a darparu gweithgareddau croeso, cymdeithasol ac ymgysylltu.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr