- Rhif y Swydd
- SU01514
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £57,422 i £66,537 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Pobl
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 12 Ebr 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 20 Ebr 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Sian Cushion s.s.cushion@swansea.ac.uk
- Brian Knaggs b.m.knaggs@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rydym yn chwilio am Bennaeth Pobl dylanwadol a blaengar i bartneru ag Uwch-arweinwyr ar draws ein Cyfadrannau neu'n Gwasanaethau Proffesiynol. Yn y rôl strategol a hynod weladwy hon, byddwch yn darparu cyngor arbenigol, yn sbarduno newid diwylliannol a sefydliadol, ac yn arwain cyflawni Strategaeth Pobl y Brifysgol.
Byddwch yn meithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy gydag uwch-randdeiliaid, gan ddefnyddio craffter, deallusrwydd emosiynol ac arbenigedd proffesiynol i nodi cyfleoedd, rheoli risgiau a llywio galluedd y gweithlu yn y dyfodol. Byddwch yn arwain blaenoriaethau trawsnewidiol mewn perthynas â phobl, yn hyfforddi ac yn datblygu Arweinwyr Pobl, ac yn hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus ar draws y Brifysgol.
Fel rhan o'n tîm Gwasanaethau Pobl uchel ei gyflawniad, byddwch yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod ein polisïau, ein prosesau a'n gwasanaethau yn bodloni'r safonau uchaf ac yn ategu profiad cwsmeriaid rhagorol.
Os ydych chi'n weithiwr pobl proffesiynol profiadol sy'n ffynnu mewn amgylchedd deinamig a chymhleth ac os ydych chi'n frwdfrydig am alluogi pobl a sefydliadau i lwyddo, rydym yn croesawu eich cais.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr