Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01504
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Bywyd Myfyriwr
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
26 Maw 2026
Dyddiad Cyfweliad
2 Ebr 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Joanna Chapman Joanna.chapman@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yw hon ar gyfer y dyddiadau canlynol:

3/6/26 - 28/8/26

Bydd dau ddiwrnod o sefydlu â thâl a hawl i wyliau blynyddol

Bydd y rolau naill ai'n cael eu cyflawni wyneb yn wyneb ar Gampws Singleton neu'n gweithio o bell ar-lein.

Cyfrannu at ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr drwy ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau addysgu, asesu, gweinyddol a goruchwylio ar Raglen Cyn-sesiynol yr Haf, yn unol â chyfarwyddiadau’r cydlynydd, er mwyn cyfrannu at amcanion dysgu ac addysgu’r Adran Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS)

 

Disgwylir i Diwtoriaid Saesneg at Ddibenion Academaidd (EAP) gyflawni'r prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau canlynol:

 

  • Disgwylir i diwtoriaid â chontractau llawn addysgu hyd at 18 awr yr wythnos.

 

  • Mae gan staff addysgu ELTS gyfrifoldeb ar y cyd i addysgu a marcio ar ran cydweithwyr sy'n absennol oherwydd salwch.

 

  • Cynorthwyo gyda pharatoi deunyddiau addas ar gyfer yr holl ddosbarthiadau.

 

  • Cynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol sydd eu hangen ar gyfer cynnal cofnodion manwl presenoldeb a gwaith a gwblhawyd ym mhob dosbarth.

 

  • Cysylltu â thiwtoriaid eraill pan fyddwch yn rhannu dosbarthiadau.

 

  • Cynnal sesiynau tiwtorial rheolaidd gyda myfyrwyr ac adrodd am broblemau i Gydlynydd y Cwrs.

 

  • Gweinyddu cyrsiau o fewn yr amserlenni gofynnol gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol, yn enwedig gofynion asesu a meini prawf ac adborth amserol ac adeiladol ar asesiadau.

 

  • Sicrhau dull cynhwysol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o hwyluso dysgu mewn ystod o fformatau cyflwyno wyneb yn wyneb ac o bosibl ar-lein fel tiwtorialau, darlithoedd, dysgu’n seiliedig ar broblemau, sy'n hyrwyddo cyfranogiad myfyrwyr a chyrhaeddiad deilliannau dysgu.

 

  • Gwneud defnydd effeithiol o dechnolegau dysgu i gefnogi a gwella darpariaeth cyrsiau, trefnu cyrsiau, adborth ac asesu. Gall hyn gynnwys darpariaeth gyfunol a/neu ar-lein

 

  • Mynd i gyfarfodydd tîm pan fydd angen

 

  • Mynd ar wibdeithiau a theithiau myfyrwyr.

 

  • Cyfrannu at ddatblygiad cyffredinol y rhaglen a'r adran drwy adborth

 

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Cynhelir cyfweliadau ar-lein dros Zoom.

Mae dyddiadau'r contract yn cynnwys rhaglen sefydlu am 2 ddiwrnod a fydd yn darparu arweiniad a chymorth ar gyfer deunyddiau ac asesiadau'r cwrs. Mae'r cyfnod sefydlu hwn yn orfodol ac yn rhan o'r contract a gynigir. Mae angen i diwtoriaid fod ar gael ar gyfer y rhaglen gyfan a byddwch yn gallu cymryd eich gwyliau cronedig ar ôl diwedd y cwrs.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho PS-Llyfryn yr Ymgeisydd-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr