Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01503
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£71,465 i £82,927 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyllid
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
13 Ebr 2026
Dyddiad Cyfweliad
27 Ebr 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Darren Griffiths d.p.griffiths@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Fel sefydliad sydd yn ei hanfod yn egwyddorol, yn bwrpasol ac yn wydn, wedi'i nodweddu gan werthoedd, diwylliant ac ymddygiadau pendant, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe â'r sgiliau amrywiol angenrheidiol i gyflawni rhagoriaeth.

Mae hon yn rôl arweinyddiaeth uwch gyda chyfrifoldeb diffiniedig clir ar gyfer maes strategol Cyllid, sy'n debygol o fod ar draws y Brifysgol, a bod a'r cyfrifoldeb cyffredinol am gynnal uniondeb gweithredol ar draws y Cyfadrannau a'r Gwasanaethau Proffesiynol. Rheolwr llinell deiliad y swydd fydd y Prif Swyddog Ariannol ond gallai fod yn atebol yn uniongyrchol i'r Cyngor, am faes strategol diffiniedig.

Bydd yn cael ei rymuso i weithredu ar ran y Cofrestrydd yn ogystal â bod yn un o'r dirprwyon enwebedig, i'r Prif Swyddog Ariannol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Llynfryn Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr