Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01500
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£29,959 i £33,482 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaeth Ymchwil, Ymrwymiad a Chyfnewidiad
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
7 Ebr 2026
Interview Dates
27 Ebr 2026 - 1 Mai 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y Paragyfreithiwr yn ymuno â Gwasanaeth Cyfnewid Ymchwil a Gwybodaeth Prifysgol Abertawe ac yn cefnogi gwaith y Tîm Contractau.

Prif ddiben y swydd yw helpu i baratoi, adolygu a rheoli cytundebau ymchwil a masnachol sydd wrth wraidd cydweithrediadau'r Brifysgol. Gan weithio'n agos gydag uwch-gydweithwyr yn y Tîm Contractau, byddwch yn helpu i lunio cytundebau, cydlynu prosesau cymeradwyaeth ar gyfer contractau a chefnogi cyd-drafodaethau â phartneriaid allanol.

Byddwch chi hefyd yn rheoli llif y cytundebau drwy'r Tîm Contractau, gan sicrhau bod dogfennau'n cael eu cwblhau'n gywir, bod cofnodion yn cael eu cynnal a bod ymholiadau gan academyddion a chydweithwyr yn y gwasanaethau proffesiynol yn cael eu hateb yn brydlon. Mae'r gwaith yn cynnwys cyswllt rheolaidd ag ymchwilwyr, staff Cyfnewid Ymchwil a Gwybodaeth yn y cyfadrannau a phartneriaid allanol.

Mae'r Tîm Contractau yn rhan o Wasanaeth Cyfnewid Ymchwil a Gwybodaeth Prifysgol Abertawe ac mae'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau ymchwil.

Byddwch chi hefyd yn cynorthwyo wrth weinyddu contractau ar draws y tîm, gan gynnwys cynnal cofnodion contractau, rheoli ffeiliau a sicrhau bod dogfennau'n cael eu storio'n gywir yn systemau rheoli contractau'r Brifysgol.

Mae'r swydd yn cynnig cyfle i gael profiad o gontractau ymchwil, eiddo deallusol a chytundebau masnachol mewn amgylchedd ymchwil prysur.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho PS-Llyfryn yr Ymgeisydd-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr