Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01496
Math o Gytundeb
Parhaol
Cyflog
£23,881 i £25,733 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
11 Mai 2026
Dyddiad Cyfweliad
21 Mai 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Jess Grey J.L.Grey@Swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Recriwtio Myfyrwyr o'r DU llawn cymhelliant a threfnus i gefnogi'r gwaith o gyflawni gweithgarwch Gwasanaeth Recriwtio Myfyrwyr o'r DU y Brifysgol. Mae'r rôl hon yn cyfrannu at ysgogi mwy o geisiadau israddedig ac ôl-raddedig (ar draws yr holl ddulliau cyflwyno), gan adeiladu piblinell myfyrwyr y Brifysgol, a chefnogi'r strategaeth recriwtio a throsi.

Gan weithio fel rhan o dîm recriwtio'r Brifysgol, byddwch yn helpu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd ag ysgolion bwydo, colegau, partneriaid allanol ac adrannau academaidd mewnol. Byddwch yn cefnogi gweithgarwch ar frig y twndis recriwtio drwy ymgysylltu â darpar fyfyrwyr, casglu data a nodi a datblygu ymholiadau, wrth hefyd gyfrannu at weithgarwch sy'n helpu i drosi ceisiadau'n gynigion cadarn.

Bydd y cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys cefnogi'r gwaith cynllunio a chynnal digwyddiadau recriwtio, megis Diwrnodau Agored, Teithiau Cerdded a Siarad, Ysgolion Haf, Diwrnodau Ymweld Clirio, gweminarau, dosbarthiadau meistr ac ymweliadau ad hoc â'r campws.  Byddwch yn mynd i arddangosiadau allanol, yn ymweld ag ysgolion a cholegau ac yn mynd i ddigwyddiadau partner, gan gynrychioli'r Brifysgol ac yn rhoi cyflwyniadau sy'n arddangos profiad y myfyrwyr.

Mae'r rôl hefyd yn cynnwys trefnu'r logisteg sy'n gysylltiedig â gweithgarwch recriwtio, gan gynnwys teithio, deunyddiau a pharatoi am ddigwyddiadau. Byddwch yn helpu cydweithwyr gyda gwaith prosiect megis ysgrifennu copi, deunyddiau cyflwyno ac adnoddau recriwtio ac yn cydweithio ag adrannau academaidd i gefnogi gweithgarwch allgymorth a throsi.  Byddwch hefyd yn casglu adborth o ddigwyddiadau ac ymweliadau gan helpu i lywio gweithgarwch recriwtio'r dyfodol ac yn cefnogi mentrau allweddol megis y prosiect Cadarnhau a Chlirio.

Mae'r rôl hon yn galw am deithio helaeth yn y DU, gan gynnwys dechreuadau cynnar, gweithio gyda'r hwyr ac aros dros nos ar adegau. Mae trwydded yrru lawn y DU yn hanfodol.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a threfnu ardderchog, hyder wrth gyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol a'r gallu i weithio ar y cyd mewn timau. Os ydych wedi graddio o Brifysgol Abertawe byddai hynny'n wych ond nid yw'n hanfodol.

Os ydych yn angerddol am addysg uwch, rydym yn croesawu eich cais.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho PS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr