Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01485
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Ebr 2026
Dyddiad Cyfweliad
18 Mai 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe'n cyflwyno cyfres o raddau'r Gyfraith israddedig sefydledig yn ogystal â rhaglenni LLM arbenigol gan gynnwys LLM y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol ac LLM Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol. Mae gennym gymuned academaidd ffyniannus o fyfyrwyr ac ysgolheigion, gyda ffocws ar gynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu arbrofol, gan gynnwys cyfle i wirfoddoli yn ein Clinig y Gyfraith. Rydym am benodi Darlithydd dros dro sy'n gallu addysgu ac asesu'r Gyfraith Droseddol, Ymgyfreithiad Troseddol, Ymgyfreithiad Sifil (gan gynnwys gweithdrefn gorsaf yr heddlu) ynghyd ag ystod o sgiliau ymarfer proffesiynol gan gynnwys Eiriolaeth, Cyfweld, Ymchwil, Drafftio, Dadansoddi Achosion a Materion ac Ysgrifennu Llythyrau;

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno gwaith addysgu ac asesu, rhoi cymorth i fyfyrwyr a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill i gefnogi rhaglenni LLM proffesiynol ac Ysgol y Gyfraith yn fwy cyffredinol.

Swydd am 12 mis yw hon dros gyfnod mamolaeth, ar gael o 1 Gorffennaf 2026.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio. Dylai ymgeiswyr hefyd atodi'r canlynol i'w cais:

  • Curriculum Vitae

 

Lawrlwytho Disgrifaid Swydd Lawrlwytho FHSS-Llyfryn yr Ymgeisydd(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr